Aelod Hwb - Carwyn Ap Plymio a Gwresogi

12 Chwefror
2025
Crefftwr o Nefyn yn elwa o gymorth Hwb Menter
Mae plymiwr o Nefyn wedi cael budd o gefnogaeth a grant gan Hwb Menter, un o raglenni Menter Môn.
Carwyn Ap Plymio a Gwresogi ydy enw'r busnes, ac mae Carwyn ap Myrddin yn teithio o gwmpas Gwynedd a Môn yn darparu gwasanaethau gwresogi a phlymio i'w gwsmeriaid.
"Mae'r busnes wedi tyfu'n dda iawn," medd Carwyn. "Dwi'n cael mwy a mwy o waith o ran bathrwms yn benodol, a lot o waith gosod bwyleri nwy hefyd."
Mae'n teimlo bod Hwb Menter wedi'i helpu i ddatblygu - nid yn unig oherwydd iddo ennill grant, ond oherwydd y cymorth a gafodd i greu cynllun busnes a chynllunio sut i wario'r grant.
"Ar ôl cael cymorth i greu cynllun busnes roedd hynny wedi fy helpu i benderfynu pa wahanol agweddau i fuddsoddi ynddyn nhw."
Cafodd gymorth gydag elfennau ymarferol fel yswiriant ac analyzer nwy, ond hefyd gydag elfennau hyrwyddo - creu logo ar gyfer y fan a dillad i'w gwmni.
Gyda'r busnes yn mynd o nerth i nerth, ei nod nesaf ydy symud tuag at arbenigo mewn ffyrdd mwy cynaliadwy o wresogi, megis technoleg sy'n defnyddio gwres o'r aer.
Gwyliwch y fideo isod am fwy o hanes Carwyn.
Tanysgrifwch i’n cylchlythyr
Cofrestrwch i'n cylchlythyr lle cewch fanylion perthnasol i helpu'ch busnes chi a PDF Awgrymiadau Arfer Da Busnes!


