Hysbysiad Preifatrwydd

Mae eich preifatrwydd yn bwysig i’r Hwb Menter ac yn unol â’r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (RhDDC), rydym ni wedi datblygu Rhybudd Preifatrwydd sy’n ymdrin â pham yr ydym yn casglu ac yn defnyddio eich gwybodaeth. Mae’r rhybudd preifatrwydd hwn yn sicrhau y bydd eich data personol yn cael ei brosesu yn deg ac yn gyfreithlon ac mewn modd tryloyw.

Cymerwch ychydig amser er mwyn ymgyfarwyddo eich hun â’n hymarferion preifatrwydd.

Pam yr ydym yn casglu ac yn prosesu’r data a gasglwyd

Yr Hwb Menter fydd y Rheolydd Data ar gyfer y data personol yr ydych chi’n ei ddarparu pan yn cysylltu a’r Hwb Menter. Yn unol â’n tasg gyhoeddus, bydd y data yn cael ei ddefnyddio i’ch adnabod chi a darparu’r gefnogaeth fwyaf addas i chi gan ein timau gwasanaeth.

Defnyddir y wybodaeth a roddwch i gadw eich lle ar gyfer mynuchu’r digwyddiad dan sylw neu i greu cofnod ar ein systemau TG o’ch ymholiad cymorth busnes. Bydd hyn yn ein galluogi i edrych eto ar unrhyw gymorth cysylltiedig a phriodol y buaswn o bosib yn medru ei ddarparu. Mae derbyn amodau hyn yn awgrymu nad oes rhwymedigaeth ar eich rhan chi i gymryd rhan mewn cyfranogiad ymhellach gyda’r Hwb Menter.

Pwy fydd yn cael mynediad at eich data

Mae’r data hwn yn cael ei rannu gyda sefydliadau sydd dan gontract gyda Llywodraeth DU i gyflawni cefnogaeth fusnes yn unig a noddir gan Lywodraeth Cymru sy’n gysylltiedig â’r cynnwys a rennir gyda'r Hwb Menter pan fyddwch chi'n cysylltu.

Bydd y data a gasglwyd gan dimau gwasanaeth cefnogi Llywodraeth DU a gweinyddwyr technegol ei systemau sy’n cefnogi’r system T.G. Ni fydd gweinyddwyr technegol y system yn defnyddio eich manylion mewn unrhyw fodd.

Pa mor hir fydd eich manylion yn cael eu cadw

Bydd eich manylion yn cael eu cadw ar ein systemau yn unol â pholisi cadw Llywodraeth DU am hyd at 3 blynedd fel rhan o’n hyfforddiant, archwiliad a’n hadolygiadau ansawdd parhaus. Os yw'r digwyddiad yr ydych wedi archebu arno yn cael ei noddi gydag arian o raglen yr Undeb Ewropeaidd yna gall Llywodraeth DU gadw'ch data hyd at 2033.

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych chi’r hawl i:

  • gael mynediad at eich data personol sydd gan Lywodraeth Cymru amdanoch chi
  • ofyn i ni gywiro unrhyw wallau yn y data hwnnw
  • wrthwynebu (mewn rhai amgylchiadau) prosesu neu gyfyngu ar brosesu
  • ‘dileu’ eich data (mewn rhai amgylchiadau)
  • gwneud cwyn gyda Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (SCG) ein rheolydd annibynnol ar gyfer diogelu data

Y manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yw:

Cyswllt y Cwsmeriaid

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Swydd Caer
SK9 5AF

Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113

Gwefan: www.ico.org.uk

Ar gyfer cael help gydag unrhyw un o’r hawliau uchod, cysylltwch â’r Hwb Menter ar 01248 858 070 neu post@hwbmenter.cymru.

Deddf Rhyddid Gwybodaeth a’ch Gwybodaeth chi

Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 yn caniatáu’r cyhoedd i ofyn am gael gweld y wybodaeth sydd gan gyrff cyhoeddus, yn cynnwys Llywodraeth DU. Gall y wybodaeth yr ydych chi’n ei darparu ar ein cyfer fod yn destun cais rhyddid gwybodaeth gan aelod arall o’r cyhoedd. Byddwn ni’n ymgynghori â chi i gael eich barn cyn ymateb i gais o’r fath.

Newidiadau i’r polisi hwn

Gall yr Hwb Menter wneud rhai newidiadau i’r polisi preifatrwydd hwn ar unrhyw adeg. Bydd newidiadau yn cael eu rhoi yma ac maen nhw’n dod i rym yn syth. Pan mae newidiadau i’r polisi hwn yn digwydd, byddwn yn cysylltu â chi gyda’r cyfeiriad e-bost sydd gennym ar gofnod yn eich cyfrif er mwyn i chi allu adolygu’r fersiwn newydd.

Tanysgrifwch i’n cylchlythyr

Cofrestrwch i'n cylchlythyr lle cewch fanylion perthnasol i helpu'ch busnes chi a PDF Awgrymiadau Arfer Da Busnes!