Grant Busnes Ynys Môn 2025
Mae hwn yn grant dewisol a ddarperir gan yr Hwb Menter / Enterprise Hub ar ran Cyngor Sir Ynys Môn. Mae'r cyllid hwn a ddarperir gan Lywodraeth y DU fel rhan o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU i ddarparu cymorth ariannol i unigolion sy'n dymuno datblygu eu busnes neu sefydlu menter newydd ar Ynys Môn.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau cysylltwch â ni ar 01248 858 070 | post@hwbmenter.cymru.

CRONFA YNYS MÔN
Grant Busnes Newydd
- Uchafswm cyfraniad grant o £2,000 (cyfanswm gwerth y gronfa £16,000)
- Uchafswm grant o 70% o gyfraniad cost y prosiect
- Isafswm cyfraniad ariannol cyfatebol o 30% sy'n ofynnol gan yr ymgeisydd
- Cyllid i gyfrannu tuag at gostau refeniw
Grant Busnes Presennol
- Cyfraniad grant rhwng £2,500 a £15,000 (cyfanswm gwerth y gronfa £200,000)
- Uchafswm grant o 50% o gyfraniad cost y prosiect
- Isafswm cyfraniad ariannol cyfatebol o 50% sy'n ofynnol gan yr ymgeisydd
Cyllid i gyfrannu tuag at gostau cyfalaf
MEINI PRAWF
- Busnes bach neu ganolig sydd â'i bencadlys ar Ynys Môn. Eich pencadlys yw'r eiddo lle mae rhan helaeth o'ch gweithgaredd busnes yn digwydd
- Busnesau masnachol (nid elusennau neu grwpiau cymunedol)
- Busnesau sefydledig neu unigolion sy'n bwriadu dechrau menter newydd cyn diwedd mis Mawrth 2026.
- Dros 16 oed
- Dim ond un cais fydd yn cael ei dderbyn gan bob busnes/unigolyn
PWRPAS
Bydd y gronfa hon yn buddsoddi mewn busnesau ar Ynys Môn a fydd yn eu cefnogi i:
- Gychwyn
- Tyfu a datblygu
- Cynnig gwasanaethau a chynhyrchion newydd
- Galluogi mynediad i farchnadoedd newydd
- Darparu cyfleoedd swyddi newydd a helpu i gynnal rolau presennol
- Diogelu dyfodol y busnes
- Buddsoddi mewn offer newydd
- Datblygu i mewn i weithfannau masnachol gwag
- Lleihau costau rhedeg
- Gweithredu technoleg newydd ac offer cyfalaf e.e. offer gweithgynhyrchu, peiriannau, offer neu seilwaith cysylltiedig
- Gwella'r defnydd o'r Gymraeg
- Lleihau ôl troed carbon a chynyddu cynaliadwyedd
- Cefnogi canol trefi lleol
- Datblygu gwasanaethau lleol pwysig
Oherwydd gwerth cyffredinol cymharol fach y gronfa, y cam cyntaf yw cwblhau Ffurflen Mynegi Diddordeb, i sicrhau cymhwysedd ac addasrwydd cyn cyflwyno cais llawn. Dyddiad Cau Ffurflen Mynegi Diddordeb = 15fed o Awst 2025. Os yw'n gymwys ac yn addas, bydd y ffurflen gais wedyn yn cael ei hanfon atoch i'w chwblhau. Rydym yn disgwyl galw mawr am y grant hwn ac yn anffodus, dim ond cyfran o'r ceisiadau a dderbyniwn y byddwn yn gallu eu cefnogi. Dyddiad cau cais llawn = 22ain o Fedi 2025. Mae gwybodaeth fanylach ar gael yn y dogfennau isod.
Os hoffech dderbyn cymorth i wneud cais am Grant Busnes Ynys Môn 2025 cysylltwch â ni ar 01248 858 070 / post@hwbmenter.cymru.
Rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus (busnes presennol a busnes newydd) gwblhau'r holl wariant a hawliadau cysylltiedig erbyn diwedd Rhagfyr 2025 fan bellaf. Dylai busnesau newydd ymdrechu i ddechrau'r busnes cyn gynted â phosibl, cyn mis Mawrth 2026 fan bellaf.
Os gwelwch yn dda sicrhewch eich bod yn darllen yr holl ddogfennau sy'n berthnasol i'r grant isod.
Tanysgrifwch i’n cylchlythyr
Cofrestrwch i'n cylchlythyr lle cewch fanylion perthnasol i helpu'ch busnes chi a PDF Awgrymiadau Arfer Da Busnes!


