Amodau a thelerau’r wefan

Rheolir www.hwbmenter.cymru a elwir yn Hwb Menter / Enterprise Hub, gan Menter Mon a M-SParc ar ran Llywodraeth DU: (sef ‘Ni’ isod). Drwy ymweld â’r wefan hon, rydych chi fel defnyddiwr ‘(‘Chi’) yn derbyn y telerau ac amodau hyn.

Mae gwasanaethau cymorth busnes Llywodraeth DU ar gael i chi at ddibenion defnydd ac edrych personol. Mae cyrchu a defnyddio yr Hwb Menter gyda’r amodau a’r telerau hyn yn arwydd eich bod yn derbyn yr amodau a’r telerau hyn. Byddant yn weithredol o’r dyddiad i chi ddefnyddio’r wefan hon gyntaf.

Rydych chi’n cytuno i ddefnyddio’r safle hwn at ddibenion cyfreithiol yn unig, ac mewn modd nad yw’n tramgwyddo hawliau, yn cyfyngu nad yn atal defnydd na mwynhad y safle hwn gan unrhyw drydydd parti. Mae’r cyfryw gyfyngiad neu ataliad yn cynnwys, heb gyfyngiad, ymddygiad sy’n anghyfreithlon, neu a allai aflonyddu neu achosi trallod i unrhyw berson, a throsglwyddiad cynnwys anllad neu dramgwyddus neu amharu ar lif deialog arferol o fewn y safle hwn.

Fe’ch gwaherddir chi rhag postio neu drosglwyddo drwy’r wefan hon unrhyw ddeunydd anghyfreithlon, enllibus, anllad, tramgwyddus na gwarthus neu unrhyw ddeunydd sydd yn, neu sy’n annog, ymddygiad y gellid ei ystyried yn weithred droseddol, sy’n debygol o arwain at atebolrwydd neu rwymedigaeth sifil, neu sydd fel arall yn torri unrhyw gyfraith. Gwnawn gydweithredu’n llawn gydag unrhyw awdurdodau gorfodi’r gyfraith neu orchymyn llys sy’n gofyn neu yn ein cyfarwyddo ni i ddatgelu hunaniaeth unrhyw un sy’n gosod unrhyw wybodaeth neu ddeunyddiau o’r math ar y wefan.

Eich gwybodaeth chi a'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth

Mae darpariaethau Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 yn berthnasol i ni. Mae hyn yn golygu ei bod yn bosib y bydd yn rhaid i ni ddatgelu gwybodaeth sydd gennym ni, gan gynnwys unrhyw wybodaeth rydych chi'n ei rhoi i ni, os cawn gais rhyddid gwybodaeth. Os gofynnir i ni roi unrhyw wybodaeth a roddwyd i ni gennych chi, byddwn fel arfer yn ymgynghori â chi er mwyn gweld pa niwed, os o gwbl, fyddai'n cael ei achosi o ddatgelu'r wybodaeth i'r cyhoedd.

Oni nodir fel arall yn y Telerau ac Amodau hwn, ni fyddwn yn rhannu'r wybodaeth rydych chi'n ei rhoi i ni ag unrhyw drydydd parti, oni bai am yr amgylchiadau canlynol:

  • bod dyletswydd arnom ni i ddatgelu neu rannu'r wybodaeth er mwyn cydymffurfio ag unrhyw ofyniad cyfreithiol (e.e. Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000)
  • er mwyn gorfodi neu weithredu ein Telerau Defnyddiwr ac unrhyw gytundebau perthnasol eraill
  • i warchod hawliau, eiddo neu ddiogelwch eraill
  • os byddwn yn rhoi neu'n trosglwyddo'r gwaith allanol o rheoli a/neu weithredu'r wefan hon neu rannau ohoni i drydydd parti, i alluogi'r trydydd parti hwnnw i barhau i ddarparu mynediad i chi i'r wefan neu i unrhyw un o'r gwasanaethau a ddarperir gan y wefan

Gosod dolenni i ac o hwbmenter.cymru

Rydym yn croesawu ac yn annog gwefannau eraill i osod dolenni i’r wybodaeth sy’n gynwysedig ar y tudalennu hyn, ac nid oes angen i chi ofyn caniatâd i gysylltu â’r Hwb Menter. Fodd bynnag, nid ydym yn rhoi caniatâd i chi awgrymu fod eich gwefan yn gysylltiedig â neu wedi ei chymeradwyo gan yr Hwb Menter.

Pan fo’n safle’n cynnwys dolenni cyswllt i wefannau eraill ac adnoddau a ddarperir gan unrhyw drydydd parti, darperir y cysylltiadau hyn er eich gwybodaeth yn unig. Nid oes gennym unrhyw reolaeth dros gynnwys y safleoedd na’r adnoddau hyn, ac nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb amdanynt nac am unrhyw golled neu niwed y gellid ei achosi o’ch defnydd chi ohonynt.

Defnyddio cynnwys hwbmenter.cymru

Cyhoeddir yr Hwb Menter drwy'r Trwydded Llywodraeth Agored, a chewch atgynhyrchu gwybodaeth o’r safle cyn belled â’ch bod yn cadw at delerau’r drwydded honno.

Mae’r deunydd ar y safle hwn wedi ei ddiogelu gan hawlfraint y Goron oni nodir yn wahanol. Darllenwch dudalen hawlfraint y Goron am wybodaeth bellach.

Mae’r enwau, y delweddau a’r logos sy’n dynodi Llywodraeth DU yn nodau perchnogol i Lywodraeth Cymru. Ni chaniateir copïo na defnydd o’r logo a/neu unrhyw logos trydydd parti eraill a gyrchir drwy’r wefan hon heb gymeradwyaeth ymlaen llaw perchennog yr hawlfraint berthnasol.

Dylid cyfeirio unrhyw geisiadau am ganiatâd i ddefnyddio logo Llywodraeth DU at Dîm Brandio Cyfathrebu Corfforaethol Llywodraeth DU.

Ymwadiad

Darperir gwefan yr Hwb Menter a’r deunydd sy’n ymwneud â gwybodaeth, cynhyrchion a gwasanaethau llywodraeth (neu i wybodaeth, cynhyrchion a gwasanaethau trydydd parti) ‘fel y mae’, heb unrhyw gymeradwyaeth a heb warant o unrhyw fath boed hynny’n benodol neu’n oblygedig yn cynnwys, ond heb ei gyfyngu, i’r gwarantau goblygedig o addasrwydd, sicrwydd, cyflawnder a chywirdeb, safon ddigonol, addasrwydd at ddiben penodol, heb dor-cyfraith.

Nid ydym yn gwarantu nac yn arddel, y bydd y swyddogaethau a gynhwysir yn y deunydd sydd ar gael ar y wefan hon heb amhariad neu wallau, y caiff diffygion eu cywiro, neu y bydd y safle neu’r gweinydd sy’n sicrhau ei fod ar gael yn rhydd rhag firysau neu’n cynrychioli swyddogaeth, gywirdeb neu ddibynadwyedd llawn y deunyddiau.

Ni fyddwn, o dan unrhyw amgylchiadau, yn atebol am unrhyw draul, golled neu ddifrod yn cynnwys, yn ddigyfyngiad, golled neu ddifrod anuniongyrchol neu ôl-ddilynol neu unrhyw draul, golled neu ddifrod sy’n codi o ddefnydd, neu golled defnydd, unrhyw ddata, neu golled elw, yn sgil neu mewn perthynas â defnydd yr Hwb Menter neu unrhyw ddibyniaeth ar ei gynnwys.

Ni ellir gwarantu fod unrhyw drosglwyddiadau data dros y rhyngrwyd yn gwbl ddiogel. Tra fyddwn yn gwneud pob ymdrech i ddiogelu gwybodaeth o’r fath, nid ydym yn gwarantu ac ni allwn sicrhau diogelwch unrhyw wybodaeth a drawsyrrir gennych atom ni. Felly hefyd, eich cyfrifoldeb chi yw unrhyw wybodaeth a drawsyrrir gennych chi atom ni.

Ni ddylid defnyddio cynnwys gwefan yr Hwb Menter yn lle cyngor proffesiynol annibynnol a dylai defnyddwyr sicrhau cyngor proffesiynol priodol a pherthnasol i’w hamgylchiadau neilltuol.

Fe allai’r deunydd gynnwys barn neu argymhellion gan drydydd partïon, nad ydynt o reidrwydd yn adlewyrchu barn yr Hwb Menter, Menter Mon, M-SParc nca Llywodraeth DU, nac yn fynegiant o’i ymrwymiad i gamau gweithredu penodol. Nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb nac atebolrwydd a allai godi yn sgil deunydd o’r math gan drydydd parti.

Cyfraith berthnasol

Caiff yr amodau a’r telerau hyn eu llywodraethu a’u dehongli’n unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr. Bydd unrhyw ddadleuon a gyfyd yn sgil yr amodau a’r telerau hyn yn ddarostyngedig i awdurdodaeth unigryw llysoedd Cymru a Lloegr.

Diogelwch rhag firysau

Rydym yn gwneud ein gorau glas i wirio a phrofi deunydd yn ystod pob cam o’i gynhyrchu. Rhaid i chithau gymryd camau diogelwch eich hun i sicrhau nad yw’r prosesau a ddefnyddir gennych chi’n eich gwneud yn agored i risg feirysau, codau cyfrifiadur maleisus neu unrhyw ffurf arall o ymyrraeth a allai ddifrodi eich system gyfrifiadurol chi. Mae hi bob amser yn ddoeth i chi redeg rhaglen gwrth-feirysau ar bob deunydd a lawrlwythir o’r rhyngrwyd.

Ni allwn dderbyn unrhyw gyfrifoldeb dros unrhyw golled, amhariad neu ddifrod i’ch data neu i’ch system gyfrifiadurol a achosir drwy ddefnyddio deunydd sy’n deillio o'r wefan hon

Fe allwn ddiwygio’r amodau a’r telerau hyn ar unrhyw bryd heb rybudd. Dylech eu gwirio’n rheolaidd. Bydd parhau i ddefnyddio gwefan yr Hwb Menter wedi newid yn arwydd eich bod yn derbyn y newidiadau.

Amrywiad

Gallwn ar unrhyw adeg adolygu'r telerau ac amodau hyn heb rybudd. Gwiriwch yn rheolaidd. Mae defnydd parhaus o wefan yr Hwb Menter ar ôl i newid gael ei wneud yn golygu eich bod yn derbyn y newid.

Cyffredinol

Nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am fethiant i gydymffurfio â’r telerau a’r amodau pan fo methiant o’r fath oherwydd amgylchiadau sydd y tu hwnt i’n rheolaeth resymol ni. Os ydym Ni’n ildio unrhyw hawliau sydd ar gael o dan yr amodau a’r telerau ar un achlysur, nid yw hynny’n golygu y caiff yr hawliau hynny eu hildio’n otomatig ar unrhyw achlysur arall. Os ystyrir fod unrhyw rai o’r amodau a’r telerau na ellir eu gorfodi’n gyfreithiol neu’n annilys neu’n anghyfreithlon am unrhyw reswm, er hynny, bydd yr amodau a’r telerau sy’n weddill yn parhau’n llawn.

Cysylltu â gwefannau eraill

Mae’r wefan hon yn defnyddio dolenni i ac o wefannau adrannau llywodraeth a chyrff eraill. Rydym am ei gwneud hi’n glir bod y telerau ac amodau hwn (sef yr un yr ydych yn ei ddarllen) yn perthyn i wefan www.hwbmenter.cymru yn unig.

Dilyn dolen i wefan arall

Os ewch chi i wefan arall o’r wefan hon, darllenwch bolisi preifatrwydd y wefan honno os gwelwch yn dda os ydych am wybod beth fydd y wefan honno’n gwneud gyda’ch gwybodaeth.

Dilyn dolen i ac o hwbmenter.cymru o wefan arall

Pan fyddwch yn cyrraedd yr Hwb Menter o wefan arall, mae’n bosib y cawn wybodaeth bersonol amdanoch gan y wefan honno. Dylech ddarllen bolisi preifatrwydd y gwefannau yr ewch iddynt sy’n cysylltu chi gyda yr Hwb Menter os ydych eisiau gwybodaeth am hyn.

Polisi Iaith Gymraeg

Mae’r wefan hon yn cynnwys gwybodaeth am y cymorth busnes sydd ar gael gan yr Hwb Menter ar ran Llywodraeth DU a'i phartneriaid. Mae’r wefan hefyd yn cynnwys dolenni i GOV.UK a gwefannau perthnasol eraill.

Mae’r holl gynnwys a gynhyrchwyd gan yr Hwb Menter wedi’i gyhoeddi’n ddwyieithog yn unol â’n dyletswyddau o dan Safonau’r Gymraeg. Fodd bynnag, mae cynnwys a ddarperir drwy ddolenni i safleoedd allanol yn cael ei ddarparu yn unol â’u gofynion nhw eu hunain, ac nid cyfrifoldeb yr Hwb Menter yw’r cynnwys hwn.

Hawlfraint

Mae’r deunydd a welir ar y wefan hon yn cael ei ddiogelu gan hawlfraint y Goron oni nodir yn wahanol.

Gellir defnyddio deunydd sydd wedi ei ddiogelu gan hawlfraint y Goron (ar wahân i logos) yn ddi-dâl mewn unrhyw fformat neu gyfrwng cyn belled a gaiff ei atgynhyrchu’n gywir ac na chaiff ei ddefnyddio mewn cyd-destun camarweiniol. Os fydd eitemau hawlfraint y Goron ar y safle hwn yn cael eu hailgyhoeddi neu eu copïo i eraill, rhaid nodi ffynhonnell y deunydd a chydnabod y statws hawlfraint.

Rhaid sicrhau caniatâd deiliaid yr hawlfraint berthnasol os defnyddir deunydd sy’n hawlfraint trydydd parti.

Mae Llywodraeth DU’n annog defnyddwyr i sefydlu dolenni hyperdestun i’r safle hwn.

Am ragor o wybodaeth, gweler polisi hawlfraint y Goron a threfniadau trwyddedu ar wefan yr Archifau Gwladol.

Nodau perchnogol Llywodraeth DU yw enwau, delweddau a logos adnabod Llywodraeth DU. Ni chaniateir copïo na defnyddio’r logo a/neu logos unrhyw drydydd parti arall y ceir mynediad atynt drwy’r wefan hon heb gael caniatâd ymlaen llaw gan berchennog perthnasol yr hawlfraint.

Dylid cyfeirio ceisiadau am ganiatâd i ddefnyddio unrhyw frandiau o eiddo Llywodraeth DU at Dîm Brandio Cyfathrebu Corfforaethol Llywodraeth DU.

Defnydd o gwcis ar y wefan

Mae’r Hwb Menter yn defnyddio ffeiliau data bach sy’n cael eu cadw ar eich cyfrifiadur o’r enw ‘cwcis’. Mae'r rhan fwyaf o wefannau mawr yn gwneud hyn. Maen nhw’n ein helpu ni i wella’r profiad o'r wefan i chi. Mae gwybodaeth ynghylch pam rydym yn eu defnyddio a sut i reoli eu defnydd ar gael ar ein tudalen cwcis.

Mae unrhyw wybodaeth rydym yn ei chasglu’n cael ei defnyddio i wneud y canlynol:

  • gwella cynnwys a chynllun y wefan
  • cysylltu â chi (gyda’ch caniatâd) i ymateb i adborth
  • cysylltu â chi drwy ein cylchlythyrau i anfon gwybodaeth atoch chi am gefnogaeth bosib i’ch busnes, a newyddion cysylltiedig

Ni fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth â sefydliadau eraill at ddibenion marchnata, ymchwil i’r farchnad na masnachol ac nid ydym yn anfon eich gwybodaeth bersonol ymlaen i unrhyw wefan arall.

Tanysgrifwch i’n cylchlythyr

Cofrestrwch i'n cylchlythyr lle cewch fanylion perthnasol i helpu'ch busnes chi a PDF Awgrymiadau Arfer Da Busnes!