Stage 1 - Expression Of Interest Form (opening soon)
Pecyn Cymorth Busnes Ynys Môn 2026
Mae'r Hwb Menter / Enterprise Hub (rhan o Menter Môn) yn datblygu grant dewisol ar gyfer busnesau ar Ynys Môn. Mae'r cyllid hwn a ddarperir fel rhan o Gronfa Twf Lleol ar gyfer darparu cymorth ariannol i unigolion sy'n dymuno datblygu eu busnes neu sefydlu menter newydd ar Ynys Môn.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau cysylltwch â ni ar 01248 858 070 | post@hwbmenter.cymru.
Manylion terfynol i'w cadarnhau a gall y wybodaeth newid.
PECYNNAU
Pecyn Cymorth Busnes Newydd
- Uchafswm cyfraniad grant o £2,00 (cyfanswm gwerth y gronfa £32,500)
- Uchafswm grant o 70% o gyfraniad cost y prosiect
- Isafswm cyfraniad ariannol cyfatebol o 30% sy'n ofynnol gan yr ymgeisydd
- Cyllid i gyfrannu tuag at gostau cyfalaf yn unig
- Sesiynau cyngor busnes 1to1 i gefnogi datblygiad busnes cyffredinol a chais am grant
- Gweithdai addysgol a sesiynau rhwydweithio
- Lleoliadau cydweithio
- Cyfranogiad mewn cyfleoedd caffael a buddsoddi rhanbarthol lle bo'n berthnasol
Pecyn Cymorth Busnes Presennol
- Uchafswm cyfraniad grant o £10,000 (cyfanswm gwerth y gronfa £140,000)
- Uchafswm grant o 50% o gyfraniad cost y prosiect
- Isafswm cyfraniad ariannol cyfatebol o 50% sy'n ofynnol gan yr ymgeisydd
- Cyllid i gyfrannu tuag at gostau cyfalaf yn unig
- Sesiynau cyngor busnes 1to1 i gefnogi datblygiad busnes cyffredinol a chais am grant
- Gweithdai addysgol a sesiynau rhwydweithio
- Lleoliadau cydweithio
Cyfranogiad mewn cyfleoedd caffael a buddsoddi rhanbarthol lle bo'n berthnasol
MEINI PRAWF
- Busnes meicro, bach neu ganolig sydd â'i bencadlys ar Ynys Môn. Eich pencadlys yw'r eiddo lle mae rhan helaeth o'ch gweithgaredd busnes yn digwydd
- Busnesau masnachol (nid elusennau neu grwpiau cymunedol)
- Cyflogi hyd at 250 o bobl
- Trosiant yn llai na £44 miliwn neu fantolen yn llai na £38 miliwn
- Busnesau sefydledig neu unigolion sy'n bwriadu dechrau menter newydd cyn diwedd mis Mawrth 2027.
- Dros 16 oed
- Dim ond un cais fydd yn cael ei dderbyn gan bob busnes/unigolyn
- Byddai'r prosiect yn cael ei ohirio, ei leihau mewn cwmpas neu ddim yn gallu bwrw ymlaen os na ddarperir cymorth ariannol.
- Rhaid i bob prosiect gael ei gwblhau a'i hawlio cyn diwedd mis Mawrth 2027.
- Rhoddir blaenoriaeth i ymgeiswyr nad ydynt wedi derbyn cymorth ariannol o'r blaen/yn ddiweddar.
Croesewir ceisiadau gan unigolion / busnesau o unrhyw sector, fodd bynnag, rhoddir blaenoriaeth i fusnesau twf uchel posibl o fewn y sectorau blaenoriaeth canlynol a nodwyd gan Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru:
- Gweithgynhyrchu Uwch
- Adeiladu
- Creadigol a Digidol
- Ynni a'r Amgylchedd
- Gwasanaethau Ariannol a Phroffesiynol
- Bwyd
- Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Twristiaeth a Lletygarwch
PWRPAS
Pwrpas y gronfa yma yw i gefnogi unigolion a busnesau ar Ynys Môn i:
- Gychwyn
- Tyfu a datblygu
- Gwella effeithlonrwydd a chynhyrchiant
- Cryfhau hyfywedd, gwydnwch a chynaliadwyedd hirdymor
- Cefnogi arloesedd a datblygiad
- Mabwysiadu technolegau digidol
- Gweithredu gwelliannau amgylcheddol
- Creu cyfleoedd cyflogaeth
- Gwella sgiliau'r gweithlu
- Gwella'r defnydd o'r Gymraeg
- Galluogi mynediad at farchnadoedd newydd
Ni all y gronfa gefnogi costau rhedeg bob dydd, cynnal a chadw, atgyweirio neu gostau busnes fel arfer.
Oherwydd gwerth cyffredinol cymharol fach y gronfa, y cam cyntaf yw cwblhau Ffurflen Mynegi Diddordeb (yn agor yn fuan), i sicrhau cymhwysedd ac addasrwydd cyn cyflwyno cais llawn. Dyddiad Cau Ffurflen Mynegi Diddordeb = 16eg o Hydref 2026.
Os yw'n gymwys ac yn addas, bydd y ffurflen gais wedyn yn cael ei hanfon atoch i'w chwblhau. Rydym yn disgwyl galw mawr am y grant hwn ac yn anffodus, dim ond cyfran o'r ceisiadau a dderbyniwn y byddwn yn gallu eu cefnogi. Dyddiad cau cais llawn = 27ain o Hydref 2026. Mae gwybodaeth fanylach ar gael yn y dogfennau isod.
Sylwch fod y dyddiadau hyn a'r dogfennau sydd wedi'u cynnwys yn ddrafftiau ac y gallant newid.
Os hoffech dderbyn cymorth i wneud cais am Grant Busnes Ynys Môn 2026 cysylltwch â ni ar 01248 858 070 / post@hwbmenter.cymru.
Rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus (busnes presennol a busnes newydd) gwblhau'r holl wariant a hawliadau cysylltiedig erbyn diwedd Mawrth 2027 fan bellaf. Dylai busnesau newydd ymdrechu i ddechrau'r busnes cyn gynted â phosibl, cyn mis Mawrth 2027 fan bellaf.
Os gwelwch yn dda sicrhewch eich bod yn darllen yr holl ddogfennau sy'n berthnasol i'r grant isod.
Tanysgrifwch i’n cylchlythyr
Cofrestrwch i'n cylchlythyr lle cewch fanylion perthnasol i helpu'ch busnes chi a PDF Awgrymiadau Arfer Da Busnes!
Diolch yn fawr! Yr ydych wedi tanysgrifo yn llwyddiannus!
Prosiect Menter Môn