Os oes gennych syniad busnes yr hoffech gael cymorth i gychwyn, cysylltwch â Sara neu Sian ar 01248 858 070 neu post@hwbmenter.cymru.
Amdanom Ni
Mae'r Hwb Menter, partneriaeth rhwng Hwb Menter a M-SParc, yn rhoi'r wybodaeth, arweiniad, ysbrydoliaeth a'r gofod i entrepreneuriaid drawsnewid eu syniad yn fusnes llwyddiannus. Ymhlith y gwasanaethau a gynigir mae swyddfeydd cydweithio, cymuned o unigolion o'r un anian i rannu syniadau a chynnig anogaeth, cyngor busnes, ystod o ddigwyddiadau addysgol / cymdeithasol, Gofod Creu Ffiws yn ogystal â rhaglen cychwyn busnes Miwtini sydd newydd ei rhyddhau. A’r darn gorau yw, mae hyn i gyd heb unrhyw gost i chi fel aelod o’r Hwb am o leiaf 6 mis!

Rhaglen 4 blynedd yw'r Hwb Menter a ariennir yn rhannol gan Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru. Mae’n gweithredu ledled Gogledd Orllewin Cymru (Ynys Môn, Gwynedd, Conwy a Dinbych), a darperir mewn partneriaeth gan Menter Môn a M-Sparc. Mae'r prif Hwb wedi'i leoli yn M-SParc yn Gaerwen ar Ynys Môn ond rydym hefyd wedi sefydlu lleoliadau lloeren yn Nolgellau, Botwnnog, Cyffordd Llandudno, y Rhyl, Porthmadog a Rhuthun i sicrhau bod modd defnyddio'r gwasanaeth ledled y rhanbarth. Mae cymryd agwedd ranbarthol yn nodwedd bwysig o'r Hwb Menter.
Rydym wedi sefydlu perthnasoedd â phob un o'r awdurdodau lleol, sefydliadau academaidd, rhwydweithiau busnes, y banciau, cyfrifwyr lleol a llawer mwy. Bydd entrepreneuriaid yn gallu elwa o gysylltiadau’r Hwb er mwyn datblygu eu busnes.
Tanysgrifwch i’n cylchlythyr
Cofrestrwch i'n cylchlythyr lle cewch fanylion perthnasol i helpu'ch busnes chi a PDF Awgrymiadau Arfer Da Busnes!