Aelod Hwb - Kico's

Kicos 3

29 Ionawr
2025

Dwy â dant melys yn llwyddo yn Llangefni   

Mawr yw’r diolch i Hwb Menter am eu cefnogaeth wrth sefydlu bar pwdin Kico’s yn nhref Llangefni, meddai’r perchnogion.  Cafodd Kico’s ei sefydlu gan Emma a Vicky Roberts, ym mis Awst y llynedd gyda chefnogaeth gan Hwb Menter i ddatblygu’r cwmni drwy greu cynllun busnes a llif arian.

 

Yn teimlo bod rhywbeth ar goll yn y dref, fe agorwyd y bar pwdin yn Llangefni er mwyn gwerthu pob math o ddanteithion, o hufen iâ i gacennau pen-blwydd.  “Wnaethon ni benderfynu agor y bar pwdin yn Llangefni oherwydd wnaethon ni ffeindio gap yn y farchnad i fenter fel hyn,” meddai Emma Roberts.  “A hefyd, mae o’n lleoliad canolog i Ynys Môn gyfan ac yn hawdd i bawb ei gyrraedd.”

 

Ar ôl penderfynu ar leoliad addas, fe ddechreuodd Emma a Vicky weithio gyda Hwb Menter.  A thri mis ar ôl agor eu drysau, fe aeth Kico’s ymlaen i ennill gwobr Busnes Newydd y Flwyddyn yng ngwobrau Menter Môn, ac i Hwb Menter a’u cynghorydd busnes, Aled, mae eu diolch, medden nhw.

 

“Cawsom ni lwyth o gefnogaeth wrth i ni sefydlu’r busnes, yn enwedig gan Menter Môn,” meddai Emma.  “Aled oedd y cynghorydd busnes ac roedd o wastad ar ochr arall y ffôn os oedden ni ei angen o.  Fe wnaeth o helpu efo pethau fel y cynllun busnes, llif arian, rhoi cais i mewn am grant ar gyfer arian cychwynnol i’r busnes.  Mae o wedi bod yn help mawr drwy’r holl broses.  Fe gawsom ni help gyda gweithdai ar-lein trwy Menter Môn a oedd yn help mawr gyda chyfrifeg, a hefyd efo’r cyfryngau cymdeithasol,” ychwanega Vicky.  “Rydan ni wedi dysgu llawer nad oeddem yn gwybod o’r blaen.”

 

Gwyliwch y fideo isod am fwy o hanes Emma a Vicky.

Tanysgrifwch i’n cylchlythyr

Cofrestrwch i'n cylchlythyr lle cewch fanylion perthnasol i helpu'ch busnes chi a PDF Awgrymiadau Arfer Da Busnes!