Aelod Hwb - Tylwyth

Jessica John 3

26 Chwefror
2025

Hanesydd yn dod â threftadaeth yn fyw drwy fusnes unigryw 

Mae Jessica John o Ddolgellau wedi llwyddo i droi ei hangerdd dros dreftadaeth yn yrfa unigryw, gan weithio gyda sefydliadau mawr a chymunedau lleol fel ei gilydd.

Ymgynghorydd treftadaeth ddiwylliannol ydy Jessica, ac mae'n cynnig amrywiaeth eang o wasanaethau – o gynllunio arddangosfeydd i gefnogi grwpiau cymunedol gyda chynllunio treftadaeth.

 

Gyrfa unigryw â galw cynyddol

Cyn dechrau ei busnes ei hun, roedd Jessica yn sylweddoli bod ei gwaith yn eithaf niche, felly nid oed yn sicr pa mor fawr fyddai'r galw am ei gwasanaeth.

“Ro’n i’n lwcus i ddweud y gwir, achos dwi di bod yn gweithio yn y byd yma ers degawd, felly roedd gen i’r cysylltiadau a syniad o'r prosiectau oedd yn mynd ymlaen,” eglura.

“Rwyf wedi gweithio ar ambell i brosiect ac mae mwy o brosiectau wedi clywed am y gwaith rwy'n ei wneud.”

Mae Jessica yn angerddol am yr hyn y gall ei chynnig i’r sector treftadaeth.

Mae'r math o waith ymgynghori mae hi'n ei wneud fel arfer yn cael ei gwblhau o fewn sefydliadau. Ond mae Jessica yn gwybod nad yw'n hawdd dod o hyd i rywun sy'n gallu gwneud ychydig o bob dim o fewn sefydliad neu gymuned, a dyna ble y gall hi helpu.

 

“Mae'n braf rhedeg eich busnes eich hun, yndi!”

Roedd y grant a gafodd gan Hwb Menter wedi bod yn allweddol wrth helpu Jessica i sefydlu ei busnes.

“Diolch i grant a gefais yn y lle cyntaf dwi wedi gallu sefydlu gwefan a mynychu cyrsiau. Er fy mod wedi rheoli prosiectau o blaen doeddwn i heb wneud y cwrs swyddogol i ar reoli prosiectau, felly mae pethau bach fel hyn wedi bod o help mawr wrth gychwyn busnes,” meddai.

Daeth Jessica ar draws rhaglen Hwb Menter ar hap, diolch i’w gŵr yn dod ar draws Menter Môn ar Facebook.

“Siaradais ag Aled, a oedd yn wych ac yn help mawr. Y pethau bach fel cynllun busnes – roeddwn i wedi ysgrifennu rhai o’r blaen, ond nid un ar gyfer fy hun! Rwy’n meddwl bod hynny wedi bod yn cog pwysig yn y broses, bod rhywun yn dal dy law di.” 

 

Gwyliwch y fideo isod am fwy o hanes Jessica.

Tanysgrifwch i’n cylchlythyr

Cofrestrwch i'n cylchlythyr lle cewch fanylion perthnasol i helpu'ch busnes chi a PDF Awgrymiadau Arfer Da Busnes!