Aelod Hwb - Y Fforc, Corcyn a'r Plu

12 Mawrth
2025
Bywyd newydd i hen adeilad National Milk Bar yn Nolgellau
Mae deli Cymreig wedi rhoi bywyd newydd i hen adeilad National Milk Bar yn Nolgellau. Agorwyd Y Fforc, Corcyn a’r Plu gan Andrew Peirson y llynedd yn dilyn cefnogaeth gan Hwb Menter. Y bwriad yw arddangos y “cyfoeth” o gynnyrch Cymreig sydd ar gael, a creu gofod i glywed y Gymraeg a siarad yr iaith.
‘Cyfoeth o gynnyrch gwych yng Nghymru’
“Fe sylweddolom yn gyflym iawn fod gennym gyfoeth o gynnyrch gwych yng Nghymru ac roeddem am eu dangos i’r eithaf,” meddai Andrew, perchennog a rheolwr Y Fforc, Corcyn a’r Plu. “Ein ffocws yw defnyddio cynnyrch lleol ac arddangos hynny. Daethom o hyd i’r adeilad hanesyddol hardd hwn yn Nolgellau, hen safle'r National Milk Bar. A’r Pasg y llynedd, fe lwyddon ni o’r diwedd i agor drysau'r siop goffi, deli, bistro, a bar trwyddedig. Fe wnaethon ni ddarganfod a chreu gofod lle rydyn ni’n clywed a siarad Cymraeg bob dydd, ac mae’n ymddangos bod y bobol leol wir yn mwynhau’r hyn rydyn ni’n ei wneud. Gallan nhw ddod yma a mwynhau paned o goffi sydd wedi’i rostio’n lleol yn Llanrwst. Rydym hefyd yn defnyddio llefrith o fferm hardd ychydig dros y pass ger Machynlleth.”
Cefnogaeth ‘wych’ a ‘gwerthfawr’ yn y flwyddyn gyntaf
Clywodd Andrew am Hwb Menter yn gyntaf drwy fwletin cymorth busnes Cyngor Gwynedd. Mae’r bwletin yn cael ei anfon yn wythnosol ac mae’n “adnodd defnyddiol iawn”, meddai Andrew.
Aeth Andrew ati i ymgeisio am gymorth, ac wedi i'r busnes dderbyn grant drwy gynllun ARFOR, roedd sawl opsiwn o ran sut gall y busnes ddefnyddio’r grant. Roedd Andrew'n teimlo y byddai ei fusnes yn cael y budd gorau pe bai'n ei ddefnyddio tuag at farchnata a ffïoedd proffesiynol.
“Mae cael cefnogaeth yn ein blwyddyn gyntaf wedi bod yn wych ac yn werthfawr iawn. "Mae hi wedi bod yn flwyddyn gyntaf lwyddiannus iawn, ac rydym yn falch iawn bod llawer o bobol leol wedi ein darganfod ac yn dod yn ôl, dro ar ôl tro. Gobeithio y bydd y bistro yn tyfu ac yn parhau i ddatblygu.”
Gwyliwch y fideo isod am fwy o hanes Andrew.
Tanysgrifwch i’n cylchlythyr
Cofrestrwch i'n cylchlythyr lle cewch fanylion perthnasol i helpu'ch busnes chi a PDF Awgrymiadau Arfer Da Busnes!


