Aelod Hwb: Eifion Jones - Caramôn

Caramon

20 Awst
2020

Mae Caramôn yn gwmni newydd, wedi’i sefydlu i gynnal archwiliadau ar garafannau a chartrefi modur.

Sefydlwyd Caramon yn gynar yn 2020 ac mae'n gweithio i gynnal gwasanaethau ar garafanau, ac archwiliadau byw ar gartrefi modur. Gallai hyn gynnwys popeth o systemau nwy, i'r batri a thrydan, archwiliadau lleithder, siasi ac olwynion! Cwmni amlweddog, sy'n cael ei redeg gan Eifion Jones a'i wraig, Angharad.

Bu Eifion yn gweithio i Gyngor Sir Ynys Môn, ar brosiectau Ewropeaidd, am 20 mlynedd. Ar ôl i'w waith ddod i ben, roedd yn gwybod ei fod am ddod o hyd i rywbeth arall. Yn garafanwr brwd, gallai Eifion weld bwlch yn y farchnad, a phenderfynodd geisio llenwi’r bwlch hwnnw, drwy sefydlu Caramôn. Cafodd hyfforddiant drwy Re-Act, a throdd at yr Hwb Menter am gyngor ar gychwyn arni. Helpodd y Hwb Menter iddo sicrhau grant Arfor, i brynu'r offer angenrheidiol ac i farchnata'n ddwyieithog, rhywbeth y mae'n teimlo sy'n bwysig.

Roedd y busnes newydd ddechrau, pan ddigwyddodd COVID-19! Sychodd y gwaith bron ar unwaith, ond yn ffodus mae bellach wedi dechrau eto gyda mesurau cadw pellter cymdeithasol a mesurau diogelwch yn eu lle. Mae hyn wedi ei gwneud yn ofynnol i Caramôn addasu bron yn syth ar ôl dechrau; newid busnes a oedd newydd ei sefydlu, i fusnes a allai weithredu yn ystod pandemig; nid camp fach fo hon i unrhyw un. Mae Eifion bellach yn gwisgo PPE, yn dadhalogi ei offer yn rheolaidd, yn gofyn i gwsmeriaid aros allan o'r garafán am dridiau ar ôl ei ymweliad, ac wedi newid i daliad digyswllt ac electronig.

Dywedodd Eifion "Mae wedi cymryd llawer i gyrraedd lle'r ydyn ni nawr, ac wrth gwrs mae'r pandemig wedi ein taro'n galed. Rydyn ni wedi gorfod addasu, ac wedi gallu addasu mewn ffordd sy'n gadael i ni barhau â'n gwaith. Fy moment fwyaf balch mewn busnes yw'r teimlad fy mod i wedi gwneud gwaith da i'r cwsmer, ac rwy'n gallu gwneud hynny nawr. Yr unig beth dwi'n difaru yw peidio cychwyn yn gynt!

Y cyngor y byddwn i'n ei roi i bobl eraill yw i roi’r gwasanaeth gorau posibl y gallwch chi, a chadw'ch addewidion; ond peidiwch â bod ofn dweud na os bydd angen. Byddwn hefyd yn eich annog i fanteisio i'r eithaf ar eich cysylltiadau, a datblygu rhai newydd. Mae defnyddio gofod yr Hwb yn M-SParc a manteisio ar y digwyddiadau ar-lein wedi bod yn help mawr i mi yn hynny o beth.

Dywedodd Beth, ymgynghorydd busnes ar gyfer yr Hwb Menter, "Rydym yn falch ein bod wedi gallu helpu Eifion i sicrhau'r grant a oedd yn gychwyn i’w fusnes, a'i fod yn parhau i fanteisio i'r eithaf ar fod yn aelod o'r Hwb Menter drwy fynychu ein gweminarau rhithwir."

Mae’r Hwb Menter yn brosiect a ariennir yn rhannol gan Y Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

www.caramon.cymru

Tanysgrifwch i’n cylchlythyr

Cofrestrwch i'n cylchlythyr lle cewch fanylion perthnasol i helpu'ch busnes chi a PDF Awgrymiadau Arfer Da Busnes!