Pecyn cymorth i'ch helpu i ddechrau eich busnes

Pwrpas y pecyn cymorth yw darparu pecyn cofleidiol llawn o gefnogaeth ymarferol a chymorth ariannol wedi’i deilwra i helpu unigolion sy’n byw yng Ngwynedd a/neu Ynys Môn i lywio cymhlethdodau sydd yn gysylltiedig â sefydlu busnes, mewn modd sy’n rhoi’r cyfle gorau posibl am lwyddiant a gwytnwch yn y dyfodol.

Mika baumeister Y Lg Xw Q Ex2c unsplash

Yn ogystal â chymorth ariannol, bydd pob ymgeisydd yn derbyn mynediad i sesiynau cyngor un i un, cyfleoedd rhwydweithio, yn ogystal â gweithdai gwybodaeth sy'n cwmpasu ystod eang o sgiliau allweddol sydd eu hangen i lwyddo mewn busnes. Bydd y pynciau a drafodir yn cynnwys elfennau megis cynllunio busnes, rhagolygon ariannol, cyfreithlondeb mewn busnes, hunanasesiad ar-lein, brandio, marchnata ac ati.


MEINI PRAWF
• Yn byw yng Ngwynedd a/neu Ynys Môn
• Dros 16 oed
• Bwriadu cychwyn menter newydd
• Chwilio am becyn cymorth o hyd at £2500 (cyfradd ymyrraeth 75%)


Mae’r Hwb Menter / Enterprise Hub yn awyddus i annog cleientiaid i ystyried cynnwys gwariant sy’n gysylltiedig â chymorth arbenigol proffesiynol fel cyfrifeg, brandio neu wasanaethau marchnata, a fydd yn rhoi sylfaen gref i’w menter newydd y bydd y busnes yn ffynnu arni. Bydd gwariant ar eitemau megis offer yn cael ei gapio er mwyn annog gwariant pellach ar hanfodion cofleidiol eraill gwerthfawr.


Mae gwybodaeth fanylach ar gael yn y dogfennau isod.

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais am y pecyn cymorth cysylltwch â ni ar 01248 858 070 / post@hwbmenter.cymru. Os bernir eich bod yn gymwys yn dilyn sgwrs gychwynnol, bydd ffurflen gais yn cael ei darparu.


Bydd ceisiadau ar sail gyntaf i'r felin ac yn cael eu hasesu gan banel yn fisol nes bod y gyllideb gyfan wedi'i dyrannu. Dylai ymgeiswyr llwyddiannus ymdrechu i gychwyn y busnes cyn gynted â phosibl, fan bellaf cyn Tachwedd 2024. Efallai y bydd angen cwblhau/cyflwyno gwariant a thystiolaeth ategol cyn y dyddiad hwn.

Dogfennau CYMRAEG Isod / WELSH Documents Below

Dogfennau SAESNEG Isod / ENGLISH Documents Below

Tanysgrifwch i’n cylchlythyr

Cofrestrwch i'n cylchlythyr lle cewch fanylion perthnasol i helpu'ch busnes chi a PDF Awgrymiadau Arfer Da Busnes!