Aelod Hwb: Jenny Davies - Snowdonia Nordic Walking

Snowdonia Nordic Walking

20 Awst
2020

Mae Snowdonia Nordic Walking yn dod â ffurf newydd o ymarfer corff i Ogledd Cymru. Wedi ei sefydlu ychydig cyn i’r cyfnod clo ddod i rym, roedd rhaid i'r cwmni roi stop ar bethau yn llythrennol yn union fel roedden nhw ar fin dechrau, ond fe ddefnyddiodd y perchennog Jenny Davies yr amser hwnnw i ddatblygu'r marchnata, gweithio ar gael adborth, a pharatoi tuag at yr amser y byddai hi’n gallu agor. Gyda’r cyfnod clo bellach yn cael ei lacio, a mesurau cadw pellter cymdeithasol yn eu lle, mae Snowdonia Nordic Walking ar agor ar gyfer busnes.

Gan gymysgu'r arddull Nordig o gerdded â golygfeydd a thirwedd y rhanbarth, mae'r arlwy yn brofiad heriol a buddiol. Mae Jenny wedi dod â rhywbeth unigryw i'r diwydiant twristiaeth, gan arddangos math newydd o ymarfer corff, nid yn unig ar gyfer ymwelwyr, ond ar gyfer pobl leol sy'n awyddus i archwilio beth sydd ar eu stepen drws.

Datblygwyd y syniad fel busnes ar y safle i wersyllwyr, o ganlyniad i nifer o geisiadau am syniadau llwybrau cerdded. Siaradodd Jenny â ffrindiau sy'n cynnal gweithgareddau yn y rhanbarth er mwyn cael adborth ar farchnata, a phwyntiau pris. Yna gofynnodd am gyngor gan hyfforddwr Cerdded Nordig a oedd yn hapus i roi cyngor, a llwyddodd i chwilota'r ardal am gystadleuwyr. Gellir datblygu sesiynau yn y Gymraeg neu'r Saesneg, ac mae'r wefan yn ddwyieithog.

Ar ôl sylweddoli nad oedd unrhyw gystadleuaeth uniongyrchol, aeth ati i ddatblygu'r marchnata a'r brandio, yn ogystal â chwrdd â'r Bartneriaeth Awyr Agored i drafod cydweithio, a helpu sesiynau ‘ffug’ gydag ystod o oedrannau a galluoedd er mwyn cael adborth ar y profiad a'r llwybrau. Ymgynghorwyd ag amryw o drigolion lleol hefyd i gael eu hadborth. Roedd y busnes yn barod ac roedd archebion yn cael eu cymryd ar gyfer mis Mawrth pan, fel sydd wedi digwydd i lawer, daeth COVID19 i roi terfyn ar bethau.

Fodd bynnag, gwelodd Jenny hyn fel cyfle arall. Defnyddiwyd y cyfnod i ganolbwyntio ar farchnata ar-lein, yn arbennig drwy Instagram a Facebook. Llwyddodd Snowdonia Nordic Walking i ddenu dilynwyr, ac ar ôl cael adborth, penderfynwyd ychwanegu sesiynau ‘blasu’ llai at y profiad hefyd.

“Gofynnwyd i mi yn ystod y cyfnod hwn i dreialu ac adolygu esgidiau cerdded ar gyfer cwmni a oedd wedi gweld fy negeseuon trydar a'm lluniau. Roedd hon yn foment wirioneddol falch i mi, gan nad yw'r busnes wedi cychwyn yn iawn eto!” Meddai Jenny. “Pe bawn i'n gallu gwneud unrhyw beth yn wahanol, fe fyddwn i’n dechrau'n gynt, oherwydd rydw i wedi cael fy ngadael heb unrhyw incwm ac wedi gwario llawer ar hysbysebu ar Facebook, ond rydw i wedi gallu defnyddio'r amser hwn i adeiladu rhwydwaith drwy'r Hwb Menter. Byddwn yn argymell Instagram ar gyfer marchnata, a hefyd yn cynghori eraill i siarad â phobl am y syniad – a derbyn beirniadaeth adeiladol. Mae siartiau llif arian hefyd yn hanfodol; byddwch yn gwario llawer yn sefydlu eich busnes ar y cychwyn.”

Meddai Sara, Cydlynydd yr Hwb Menter, “Mae Jenny wedi gwneud gwaith gwych, gan wneud y gorau o sefyllfa wael a pharatoi ei busnes fel ei fod yn barod i'w lansio. Rydym wedi darparu cyngor busnes, ac yn gwybod bod Jenny wedi elwa o'n digwyddiadau rhwydweithio a’n siaradwyr ysbrydoledig. Rydym yn parhau i ddarparu'r rhain, yn rhithiol am nawr, ac yn annog unrhyw un sy'n dechrau busnes i ddod i weld yr hyn rydyn ni’n ei gynnig.”

Mae’r Hwb Menter yn brosiect a ariennir yn rhannol gan Y Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

www.snowdonianordicwalking.com

Tanysgrifwch i’n cylchlythyr

Cofrestrwch i'n cylchlythyr lle cewch fanylion perthnasol i helpu'ch busnes chi a PDF Awgrymiadau Arfer Da Busnes!