Darpariaeth Iechyd a Lles

Jamie street tb5 A QTI6xg unsplash

15 Medi
2020

Mae gofalu am eich iechyd a'ch lles wedi bod yn bwysig erioed, ond mae yn bwysicach nawr nag erioed o'r blaen. Wrth i'r Hwb Menter @ M-SParc ddechrau eich croesawu yn ôl i ofodau yr Hwb roeddem yn awyddus i wella ein cefnogaeth iechyd a lles i sicrhau eich bod yn parhau i fod yn hapus ac yn iach.

APP THRIVE

Rydym wedi partneru â Thrive i ddarparu mynediad wedi'i ariannu'n llawn i chi. Mae Thrive yn cynnig dyfnder ac ystod unigryw o gefnogaeth mewn un app. O dechnegau ymlacio fel myfyrdod, i hyfforddiant meddwl, gwella cwsg, a tracio olrhain cynnydd - gallwch wella'ch lles meddyliol mewn modd syml gan bod y cyfan sydd ei angen arnoch mewn un lle. Bydd App Thrive yr Hwb Menter ar gael o fis Hydref. Cysylltwch â ni i gofrestru'ch diddordeb.

GWYTNWCH

Mae gwytnwch yn bwysig. Mae'n ein helpu i barhau â bywyd o ddydd i ddydd, hyd yn oed os ydym yn gwynebu rhwystrau annisgwyl ac anodd. Os hoffech chi weithio ar eich gwytnwch, gall aelod yr Hwb Menter, Erin Thomas eich tywys trwy 6 sesiwn, i oresgyn hyn a dysgu strategaethau ymdopi ymarferol. Gall y rhaglen hon hefyd helpu os ydych chi'n teimlo'n isel, yn ynysig, neu'n cael trafferth gyda'ch iechyd meddwl fel arall. Bydd yr Hwb yn talu cost eich sesiwn gyntaf, gyda dim ond £ 100 ar ôl i chi ei dalu. Cysylltwch â ni i gofrestru'ch diddordeb.

YMWYBYDDIAETH OFALGAR

Ymunwch â'r gweminarau ymwybyddiaeth ofalgar am ddim yma. Mae croeso i unrhyw un. Maen't yn rhedeg bob amser cinio dydd Mercher am 1:10 am 20 munud. Ymunwch trwy'r ddolen yma.

YMARFER CORFF

Diolch i un o denantiaid M-SParc, gallwch nawr gael mynediad i'r llwybrau gorau o amgylch M-SParc ar gyfer cerdded neu redeg! Dilynwch y ddolen i gael mynediad at fapiau Strava, ac ewch allan am 2k, 5k neu 10k!

Maethegydd

Os oes gennych ddiddordeb yn hyn ac eisiau edrych ymhellach ar eich maeth, yna siaradwch â Gary Jones! Bydd yn M-SParc ar yr 22ain o Fedi rhwng 1-5, a gallwch archebu slot 30 munud (wedi ei ariannu'n llawn!) yma!

Yoga

Mae Ceri Lloyd wedi creu chwe fideo ymarfer corff pwrpasol i chi yma. Mae'r fideos hyn yn ddwyieithog, felly efallai y byddwch hefyd yn dysgu rhywfaint o Gymraeg yn y broses. Bonws ychwanegol! Gall yoga helpu gydag iechyd meddwl a chorfforol, gan hyrwyddo cryfder a brwydro yn erbyn straen.

Tanysgrifwch i’n cylchlythyr

Cofrestrwch i'n cylchlythyr lle cewch fanylion perthnasol i helpu'ch busnes chi a PDF Awgrymiadau Arfer Da Busnes!