Aelod Hwb: Elin Crowley - Ennyn

Ennyn

20 Awst
2020

Mae Ennyn yn gwmni budd cymunedol, sy'n cynnig gweithdai celf mewn ysgolion a chymunedau. Mae'r cwmni'n gweithio ar sail cyflogaeth linol, gyda phedwar cyfarwyddwr a dim staff, gyda'r nod o sicrhau bod plant yn dadlennu celf ac yn cymryd rhan ynddo. Maen nhw'n falch o allu cynnig y gwasanaeth hwn yn y Gymraeg, yn ogystal â'r Saesneg. Yn ystod y pandemig COVDI19, pan fo’r ysgolion ar gau, maen nhw wedi gallu arloesi ac addasu eu model busnes cyfan. Maen nhw bellach yn cynnig yr holl weithdai ar-lein, ac yn gadael pecynnau y tu allan i siopau lleol er mwyn i'r gymuned ddod yn rhan o'r prosiect. Mae hyn wedi galluogi'r busnes i barhau i ddarparu cyfleoedd artistig yn ystod cyfnod lle, gellid dadlau, y mae ei angen fwyaf ar y gymuned.

Cwmni budd cymunedol yw Ennyn, sy'n darparu gweithdai celf addysgol dwyieithog mewn ysgolion a chymunedau. Y bwriad yw creu profiad a chanlyniad cyffredin er mwyn dod â chymunedau at ei gilydd, a chaniatáu i bawb gyrchu’r celfyddydau a'u mwynhau. Gellir defnyddio creadigrwydd hefyd i hyrwyddo unigoliaeth a lles, ac mae hyn i gyd yn rhan o ethos Ennyn. Mae'r cwmni'n eiddo ac yn cael ei redeg gan ddau artist, garddwr, a meddyg teulu. Y cymysgedd perffaith o sgiliau i gyflawni'r ethos hwn.

Mae gweithdai ar gyfer pob oedran, ac maen nhw’n cynnwys popeth o wneud crys-T, i farddoniaeth, a phopeth yn y canol. Roedd y cwmni'n mynd o nerth i nerth pan darodd y pandemig COVID19, oedd yn golygu bod ysgolion a chymunedau yn cau ac yn methu manteisio ar Ennyn.

Dywedodd Nicky Arscott, un o'r Cyfarwyddwyr, "Mae celf mor bwysig ar gyfer lles, ac i helpu plant i ganfod eu hunigoliaeth, ond gall fod yn anodd ei gyrchu i rai yn y gymuned. Rydym am ddangos bod celf yn hygyrch ac ar gael i bawb, ac yn arbennig felly yn ystod cyfnodau anodd fel hyn. Felly, gyda chymorth yr Hwb Menter, fe wnaethom lwyddo i addasu ein busnes a rhoi popeth ar-lein.

Mae gennym wefan a chyfryngau cymdeithasol wedi'u sefydlu, ac rydym yn gallu gadael pecynnau mewn siopau lleol yn y gymuned. Fel hyn, rydyn ni'n teimlo ein bod ni'n gwneud gwahaniaeth ac yn gallu helpu pobl, sy'n profi un o brif nodau'r cwmni – dod â phobl ynghyd a hyrwyddo lles gyda chreadigrwydd.”

Dywedodd Gwenfron, ymgynghorydd busnes ar gyfer yr Hwb Menter, “Fe wnaethom lwyddo i helpu i roi cyngor busnes i Ennyn, a hefyd i sicrhau eu bod yn ymwybodol o weithdai a digwyddiadau perthnasol i'w busnes, sy’n cael eu trefnu a'u cynnal gan yr Hwb Menter. Yn enwedig gyda chymorth cyllid grant ac achos busnes, roeddwn yn gallu cynnig cyngor a oedd o gymorth mawr i'r cwmni symud ymlaen, ac mae hynny'n wych i'w weld.”

Ychwanegodd Nicky “Byddwn yn argymell yr Hwb Menter i'r rhai hynny sy'n cychwyn busnesau, a phe bawn i'n gallu cynnig cyngor, y cyngor fyddai y dylech barhau i ofyn am help, ac i gyfathrebu a bod â meddwl agored am bob syniad a chynnig cymorth.”

Mae’r Hwb Menter yn brosiect a ariennir yn rhannol gan Y Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

https://www.ennyncymru.com/

Tanysgrifwch i’n cylchlythyr

Cofrestrwch i'n cylchlythyr lle cewch fanylion perthnasol i helpu'ch busnes chi a PDF Awgrymiadau Arfer Da Busnes!