Aelod Hwb: Eldeg Lewis - DyLun10

Dylun10

20 Awst
2020

Fe wnaeth Eldeg ddechrau DyLun10 i greu dyluniadau Cymraeg a Saesneg, gan ganolbwyntio ar offer a chardiau priodas. Ychydig fisoedd yn ddiweddarach, roedd COVID19 yn golygu bod y cwmni a oedd newydd ddechrau yn gorfod gwyro i gyfeiriad arall, ac yn gyflym! Gyda chymorth rhaglen Miwtini yr Hwb Menter ac ymgynghorydd busnes, llwyddodd Eldeg i arallgyfeirio a pharhau i ddechrau ei busnes ei hun, gan sicrhau presenoldeb ar-lein a newid ei chynulleidfa darged. Mae dyfyniadau ysbrydoledig bellach wedi dod yn ffocws, ac mae sylfaen cwsmeriaid yn cael ei meithrin, i gyd yn ystod cyfnod o argyfwng!

Eldeg oedd un o'r cyntaf i gychwyn ar y rhaglen Miwtini, sydd wedi’i dylunio i helpu cwmnïau i ddechrau a dechrau masnachu mewn cwta dri mis. Mae ei chwmni, DyLun10, yn creu ac yn dylunio patrymau yn y Gymraeg a'r Saesneg, ar amrywiaeth o wahanol gynnyrch. Roedd y ffocws i ddechrau ar gardiau ac offer priodas, ond gall hefyd gynnwys unrhyw beth o lyfrau nodiadau i glustogau. Fe wnaeth Fiwtini ganiatáu i Eldeg ddysgu sut i greu cynllun busnes, rheoli rhagolwg ariannol, creu brand, ac yn bwysig – i gwrdd a rhwydweithio gydag unigolion o'r un anian sy'n hwylio'r moroedd tymhestlog o gwmni newydd ochr yn ochr â hi. Does dim angen i neb fentro allan ar ei ben ei hun!

Cynhaliwyd cyfarfodydd gyda'i ymgynghorwyr busnes i gael cymorth grant, ac roedd Eldeg yn y broses o sefydlu gwefan, pan ddechreuodd y pandemig COVID19.

Dywedodd Eldeg "Yn gyflym iawn, roedd yn amlwg bod pethau'n newid. Fe wnes i gwblhau y sesiwn Miwtini olaf ar-lein, a chafodd fy ngwefan newydd ei gohirio. Bu'n rhaid hefyd gohirio llawer o briodasau, a oedd yn rhan fawr o'm cleientiaid. Wna’ i byth anghofio pa mor falch oeddwn i pan fynychais fy ffair grefftau gyntaf, a gweld pobl yn cymryd diddordeb yn fy ngwaith ac yn ei edmygu, ond mae'r ffeiriau sydd i ddod i gyd wedi cael eu canslo.

Felly rydw i'n cymryd camau positif. Rwy'n gweithio ar ddyfyniadau ysbrydoledig a chadarnhaol i helpu pobl drwy'r amser hwn, sy'n arallgyfeirio fy nghynulleidfa. Dwi hefyd yn gallu cyrraedd cynulleidfa ehangach drwy ddefnyddio'r Gymraeg, rhywbeth sy'n bwysig i mi, er mwyn creu dyfyniadau a allai deimlo ychydig yn fwy personol i rai. Fy nghyngor i eraill sydd am ddechrau busnes yw cymryd y cam cyntaf hwnnw, a manteisio i’r eithaf ar y cymorth sy’n cael ei gynnig gan yr Hwb Menter, mae'n wirioneddol werthfawr.”

Dywedodd Sara, cydlynydd yr Hwb, "Roeddem yn falch o weld Eldeg yn dod ar y rhaglen Miwtini gyntaf, a gweithio'n galed iawn ar ei busnes. Er ei bod yn awr yn wynebu cyfnod heriol, mae'n agored i arallgyfeirio ei busnes a bydd hynny'n fantais wirioneddol. Rydym yn parhau i gynnig ymgynghorwr busnes, a gweithdai ar-lein, i helpu Eldeg a chleientiaid eraill yn ystod y cyfnod anodd hwn, ac mae'r gwydnwch maen nhw’n ei ddangos wedi bod yn galonogol. Allwn ni ddim aros i weld beth fydd Eldeg yn ei wneud nesaf.”

Mae’r Hwb Menter yn brosiect a ariennir yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Tanysgrifwch i’n cylchlythyr

Cofrestrwch i'n cylchlythyr lle cewch fanylion perthnasol i helpu'ch busnes chi a PDF Awgrymiadau Arfer Da Busnes!