Aelod Hwb: Alex & Rachel - Martha Loves

Martha Loves 2

20 Awst
2020

Fe wnaeth Rachael ac Alex ddatblygu Martha Loves yn 2019, gan ddylunio a gwneud dillad isaf i blant â llaw. Roedden nhw wedi cael eu sefydlu ers blwyddyn pan gyhoeddwyd y cyfnod clo – doedden nhw ddim hyd yn oed yn gallu cael mynediad i'w gweithdy am gyfnod ac roedd amser yn edrych yn anodd! Ond drwy fod yn ddyfeisgar, addasu i heriau newydd, a gwthio'r busnes ymlaen bob amser, yn ogystal â llwyddo i gadw’r cwmni i fynd maen nhw hefyd wedi tyfu a hyd yn oed wedi amrywio eu cynulleidfa yn y broses.

Daeth Rachael â'i sgiliau gwnïo ac Alex â’i harbenigedd yn y cyfryngau cymdeithasol at ei gilydd i sefydlu Martha Loves. Bu'r ffrindiau yn gweithio'n ddiflino ar syniad yr oedden nhw wedi gwneud ymchwil i'r farchnad ar ei gyfer - dillad isaf lliwgar, moesegol i blant. Prin iawn oedd y bobl allan yno’n gwneud hyn, felly roedden nhw’n gwybod bod ganddynt farchnad arbenigol. Fe wnaethon nhw ddechrau arni, gan sefydlu'r busnes yn gwneud ychydig o ddillad isaf gyda ffabrig a gynlluniwyd yn bersonol.

Ar y ddechrau doedden nhw ddim yn mynd i gael gwefan. “Mi wnes i'r wefan fy hun, mae’r cyfan wedi ei wneud gen i, ac fe wnaethon ni sylweddoli ei fod yn ffordd wych o werthu. Roedden ni wedi bod yn mynd i ffeiriau crefft a phethau'n rheolaidd, ond wrth gwrs does dim modd iddyn nhw ddigwydd ar hyn o bryd, felly mae'r wefan wedi bod yn hollbwysig.” Meddai Alex. Nododd Rachel pa mor ddefnyddiol yr oedd y cyfryngau cymdeithasol, gan ddweud “Mae pobl yn prynu gan bobl; dangoswch pwy ydych chi ar eich cyfryngau cymdeithasol, mae hynny'n bendant wedi helpu ein cynulleidfa i dyfu.”

Daeth moment diffiniol Alex yn 2019 pan symudon nhw i mewn i'r gofod yn Congl Meinciau, un o leoliadau lloeren yr Hwb menter. “Cerddais i mewn gyda fy mheiriant gwnïo, yr un rydw i wedi ei gael ers i mi fod yn 11, a'i osod i lawr ar y bwrdd a meddwl ...Waw! Mae’n digwydd!” Ac i Rachael fe ddaeth mewn ffair grefftau, pan redodd bachgen ifanc drosodd i bwyntio at ddillad isaf, a chyhoeddi’n falch mai dyma’r dillad isaf oedd ganddo ymlaen, ei ffefrynnau!

Maen nhw'n cefnogi ei gilydd wrth iddyn nhw symud ymlaen, gan addasu a newid y busnes. I ddechrau, roedden nhw'n meddwl eu bod nhw’n marchnata i famau, ond cyn hir roedden nhw'n gwerthu eitemau anrhegion, ac wedi newid trac marchnata. Drwy'r pandemig maen nhw wedi arallgyfeirio drwy greu mygydau wyneb. Mae popeth o'r pecynnu i'r ffabrig yn foesegol. Fe wnaethon nhw hyd yn oed lynu wrth yr egwyddor hon yn ystod y pandemig, pan oedd yn llawer anoddach dod o hyd i ddeunydd pacio.

Roedd cefnogaeth a chyngor gan yr Ymgynghorydd Busnes, Darren Morley yn yr Hwb Menter yng Nghongl Meinciau, hefyd yn amhrisiadwy “Mae Darren bob amser yno i siarad, gan sicrhau ein bod ni ar y trywydd iawn ac mae o bob amser yn gwybod pwy all ein helpu pan fydd angen cymorth arbenigol ychwanegol arnom.” Mae Martha Loves wedi manteisio i’r eithaf ar fod yn aelodau o'r Hwb Menter, ac roedden nhw hyd yn oed yn siaradwyr gwadd ysbrydoledig ar weminar yn arddangos eu datblygiad drwy'r pandemig. Maen nhw hefyd wedi cael mentor drwy wasanaeth Busnes Cymru. Ond eu hangerdd dros y busnes, a'u parodrwydd i ofyn am help a pharhau i ddysgu sydd wedi gweld y busnes yn tyfu o nerth i nerth. Ar ôl y pandemig, bydd yn gyffrous iawn gweld sut mae'r cwmni hwn yn tyfu.

Mae’r Hwb Menter yn brosiect a ariennir yn rhannol gan Y Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

ww.martha-loves.co.uk

Tanysgrifwch i’n cylchlythyr

Cofrestrwch i'n cylchlythyr lle cewch fanylion perthnasol i helpu'ch busnes chi a PDF Awgrymiadau Arfer Da Busnes!