Aelod Hwb: Wyn Griffith - Dylunio a Prototeipio Llawrydd

Wyn Griffith

4 Mehefin
2020

Lai na blwyddyn yn ôl, cymerodd Wyn y naid a gadael ei swydd mewn Prifysgol i sefydlu ‘Wyn Griffith - Dylunio a Phrototeipio Llawrydd.’ O fewn ychydig fisoedd, golygai pandemig COVID19 fod yn rhaid i Wyn addasu neu wynebu y byddai ei fusnes yn methu o bosibl. Creodd handlen drws dim-dwylo prototeip, gwirfoddolodd i greu fisorau PPE, ac mae'n awr yn rhan o gontract newydd i gynorthwyo gyda'r pandemig COVID19.

Dechreuodd taith Wyn 8 mis yn ôl, pan adawodd ei swydd er mwyn dilyn uchelgais tymor hir – i sefydlu ei gwmni ei hun. Mae'n arbenigo mewn dylunio a phrototeipio llawrydd, gan ddefnyddio popeth o luniadu CAD, modelu 3D, torri CNC i brototeipio cyflym.

Roedd Wyn eisoes wedi defnyddio ei sgiliau creadigol a chyfoeth o wybodaeth prototeipio fel Arweinydd Technegol ar gyfer adran Dylunio Cynnyrch y Brifysgol ac yn fwyaf diweddar fel y Prif Dechnegydd Arloesedd yn eu canolfan gelfyddydau.

Yr Hwb Menter yn M-Sparc oedd y lle gorau i ddechrau, gan ei fod yn gallu cael mynediad i'r gofod creu Ffiws, mynychu digwyddiadau i gyfarfod pobl o'r un anian sy'n dechrau eu teithiau cychwyn busnes eu hunain, a chael cynghorwr busnes a allai helpu i lywio'r ffyrdd anodd o sefydlu busnes.

Gyda dyfodiad annisgwyl COVID19, ni wnaeth Wyn betruso cyn defnyddio ei sgiliau. Cynlluniodd agorwr drws blaen y fraich gellir ei ôl-ffitio dros dro, sy'n golygu bod llai o siawns o halogiad. Roedd y dyluniad hwn ar gael am ddim, ac mae wedi cael ei lawrlwytho gannoedd o weithiau o amgylch y byd i gael ei argraffu mewn 3D, ac ymddangosodd ar Newyddion BBC Cymru. Mae hefyd wedi cyfrannu at yr ymdrech gymunedol enfawr o argraffu fisorau wyneb 3D. Yn ogystal â chynnal ei beiriannau argraffu 3D ei hun a rhai M-SParc bob awr o’r dydd gartref, mae hefyd wedi cyfrannu at gydlynu a dosbarthu fisorau rhad ac am ddim i weithwyr rheng flaen o M-SParc. Gwnaed hyn yn wirfoddol ac roedd hyn yn bosibl oherwydd cwymp sydyn yng ngwaith cleientiaid. Fodd bynnag, oherwydd ei sgiliau, ei allu i addasu ac amlygiad o'i brosiectau cymunedol gwirfoddol, mae Wyn hefyd wedi sicrhau contract i ymgymryd â pheirianneg prototeip sy'n gysylltiedig â COVID-19.

Dywedodd Wyn “Roeddwn i'n gwybod ei bod hi'n bryd i mi gymryd y naid a dechrau fy nghwmni fy hun, ond wrth gwrs doeddwn i ddim wedi rhagweld beth oedd ar fin digwydd. Fodd bynnag, buaswn yn cynghori pawb i fod yn barod bob amser i addasu i unrhyw sefyllfa. Gan fod fy musnes i'n ymwneud â bod yn arloesol, rwy'n lwcus i feddu ar y sgiliau i addasu, ac rwyf wedi bod yn falch o helpu yn ystod y cyfnod anodd hwn. Mae'n fonws enfawr i fod wedi sicrhau contract, ac ni allaf siarad llawer amdano ar hyn o bryd, ond gobeithio y bydd yn gwneud gwahaniaeth ac yn helpu pobl ymhellach yn ystod y pandemig hwn.

Mae'r Hwb Menter wedi bod o gymorth mawr i mi ddod yn rhan fwy o'r gymuned fusnes, a byddwn yn annog y rhai sy'n dechrau arni i feddwl - allwch chi wneud hyn ar eich pen eich hun? Byddwn yn dweud ei bod bob amser yn well bod mewn sefyllfa lle gallwch ofyn am gymorth, ac wrth gwrs lle gallwch helpu eraill yn gyfnewid.”

Dywedodd Sara, Cydlynydd yr Hwb Menter, "Rydym wedi cefnogi Wyn gydag ysgrifennu cynllun busnes ac amrywiaeth o ddigwyddiadau diddorol, ac yn gyfnewid am hyn mae wedi dechrau rhoi yn ôl i'n cymuned drwy ein helpu i sefydlu peth o'r offer yn y gofod creu Ffiws a chynnig cyrsiau i aelodau eraill yr Hwb! Mae'n wych gweld ein haelodau yn cymryd rhan mor fawr ac yn defnyddio eu sgiliau arbenigol. Yn enwedig yn awr, yn ystod y pandemig COVID19, rydym mor falch o weld Wyn yn helpu eraill.”

Mae’r Hwb Menter yn brosiect a ariennir yn rhannol gan Y Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

http://www.wyngriffith.com/

Tanysgrifwch i’n cylchlythyr

Cofrestrwch i'n cylchlythyr lle cewch fanylion perthnasol i helpu'ch busnes chi a PDF Awgrymiadau Arfer Da Busnes!