Aelod Hwb: Jan Lloyd Nicholson - Henry's Cushion

Jan horz

4 Mehefin
2020

O fyfyriwr aeddfed a mam i 7, i Entrepreneur a chrëwr cynnyrch newydd sbon i helpu plant ag awtistiaeth i gyfleu teimladau, mae Jan wedi cyflawni llawer dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Trwy gefnogaeth gan yr Hwb Menter yn M-SParc mae hi wedi derbyn cyllid, wedi bod ar y teledu i hyrwyddo ei chynnyrch, ac mae bellach yn cael ei gynhyrchu! Darllenwch stori lawn clustog Henry, isod.

Mae Jan Lloyd-Nicholson, myfyriwr aeddfed sy'n astudio Seicoleg ym Mhrifysgol Bangor, wedi dod yn bell dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae hyn i gyd diolch i'w hangerdd am yr hyn mae'n ei wneud, help gan yr Hwb Menter, a'i mab, Henry.

Mae Henry yn cael anhawster cyfathrebu, ac yn benodol, cyfleu ei emosiynau. Mae hyn yn rhywbeth mae llawer o bobl yn cael anhawster ag ef, ond i Henry mae'n cael ei wneud yn llawer anoddach oherwydd bod ganddo awtistiaeth. Mae hyn yn golygu ei fod yn dibynnu llawer ar gyfathrebu di-eiriau, a all fod yn ynysig. Roedd Jan a Henry eisiau gweithio i frwydro yn erbyn hyn.

Gyda'i gilydd, fe wnaethant weithio ar ddatrysiad, a Henry ei hun ddyluniodd y glustog gyfathrebu - 'Henry's Cushion'. Mae hwn yn gysur i Henry, sy'n gallu ei ddal a'i gario o gwmpas gydag ef, ond mae hefyd yn cynnwys delweddau sy'n darlunio emosiynau sylfaenol fel llawenydd a thristwch, y gall Henry ddangos i eraill er mwyn eu cyfleu heb eiriau. Mae'n ddigon syml fel bod unrhyw un yn gallu deall yr hyn mae'n ei gyfathrebu ac nid oes angen bron dim cyfarwyddyd ar sut i’w ddefnyddio!

Daeth Jan i gyflwyno ei chynnig yn nigwyddiad Pitch Perfect Hwb Menter yn M-SParc ym mis Mawrth 2019, un o nifer o ddigwyddiadau a sefydlwyd er mwyn helpu busnesau newydd i ddysgu sgiliau newydd a gwneud cysylltiadau newydd, a dyfarnwyd gwobr ariannol iddi am y syniad. Fe roddodd hyn gyfle iddi hefyd gael cyhoeddusrwydd trwy'r cyfryngau cymdeithasol, ac i ymddangos ar sioe Gary Wyn ar Radio Cymru, a oedd yn bresennol i recordio'r digwyddiad!

Disgrifiodd Jan y profiad fel un o'i momentau mwyaf balch ym myd busnes. “Roeddwn i’n gallu gweld fy nghyflwyniad ar y sgrin anferth yn M-SParc, ac roedd gweld wyneb Henry yno yn bwysig iawn. Roedd ennill y gystadleuaeth yn deimlad anhygoel a rhoddodd gymaint o hyder i mi.”

O'r fan honno, llwyddodd Jan i fynd ymlaen i weithio gyda gwniadwraig i ddylunio nifer o'r clustogau hyn, ac maen nhw'n dod yn fwyfwy poblogaidd mewn ysgolion. Y bwriad yw datblygu'r cynnyrch er mwyn gallu ei gynhyrchu'n gyflymach ac yn fwy cost-effeithiol.

Yn ddiweddar, ymddangosodd Jan ar S4C hefyd, gan gyflwyno'r glustog i gynulleidfa Gymreig. Fe wnaeth yr Hwb Menter rannu hyn ar gyfryngau cymdeithasol a daeth ymholiadau am y cynnyrch i mewn ar unwaith!

Dywedodd Sara, cydlynydd yr Hwb “Rydyn ni wedi cefnogi Jan gyda chyllid, twf a chefnogaeth gynghorol, ac yn parhau i wneud hynny. Rydyn ni'n falch iawn o'i gweld hi'n gwthio ymlaen gyda'r busnes hwn, a pha mor gyflym rydyn ni'n dechrau gweld llwyddiant. Dyma’r rheswm mewn gwirionedd y sefydlwyd yr Hwb Menter, a gobeithiwn y bydd y stori hon yn annog eraill i feddwl am gychwyn busnes felly dewch atom, a gweld pa gefnogaeth y gallwn ei chynnig i chi.”

Cyngor Jan i eraill sy'n gobeithio dilyn ei ôl troed yw cymryd pob cam ar y tro, gwneud eich ymchwil, a derbyn yr holl gefnogaeth y gallwch chi - ni allwch ei wneud ar eich pen eich hun. Mae tîm B-Enterprising Prifysgol Bangor hefyd wedi rhoi cefnogaeth amhrisiadwy i Jan, gan arwain at iddi gael ei dewis i gynrychioli'r Brifysgol yn Rhaglen Entrepreneuriaid sy'n Dod i'r Amlwg Santander.

Mae’r Hwb Menter yn brosiect a ariennir yn rhannol gan Y Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

https://www.instagram.com/henryscushion/

Tanysgrifwch i’n cylchlythyr

Cofrestrwch i'n cylchlythyr lle cewch fanylion perthnasol i helpu'ch busnes chi a PDF Awgrymiadau Arfer Da Busnes!