Aelod Hwb - Youth Empowerment Mentoring

28 Mai
2025
Tristian yn troi heriau personol yn gyfle i helpu pobol ifanc
Mae Tristian Griffiths wedi sefydlu Youth Empowerment Mentoring, busnes sy’n meithrin pobol ifanc mwy hyderus, gwydn a llawn cymhelliant. Trwy gyfuniad o brofiad personol a chefndir addysg, mae wedi creu rhaglen sy’n helpu ieuenctid i gyflawni eu potensial.
“Cymerais y sgiliau roeddwn i wedi’u dysgu o fy nghefndir addysg a fy mhrofiadau personol,” eglura Tristian. “Rwyf wedi cael therapi gwybyddol ymddygiadol (CBT), cymorth seiciatreg a llawer o ymyriadau gwahanol, ac rwy'n falch o ddweud bod y rhain wedi fy helpu i i greu Youth Empowerment Mentoring.”
Cymorth hanfodol i ddechrau busnes
Roedd cymorth Hwb Menter yn allweddol wrth sefydlu Youth Empowerment Mentoring.
“Cyn gynted ag y gwnes gyfarfod ag Aled, fy nghynghorydd busnes, roeddwn yn gwybod yn syth y byddai’r bartneriaeth yn llwyddiant, ac roedd y broses o’r dechrau i’r diwedd yn bleserus iawn hefyd.” meddai Tristian.
Mae Tristian yn cyfaddef na fyddai wedi bod mewn sefyllfa i ddechrau'r busnes heb y cymorth grant.
“Defnyddiais yr arian ar bethau allweddol – cyfrifydd, dillad gwaith, brandio ac ati” eglura. “Ond yn ogystal â hynny roedd yr arweiniad a’r gefnogaeth yn amhrisiadwy i mi ar y pryd, a’r gallu i siarad â rhywun yn rheolaidd er mwyn gwneud yn siŵr fy mod ar y trywydd cywir.”
Yn ogystal, cafodd Tristian ei annog i ymuno â’r Siambr Fasnach, rhywbeth sydd wedi profi’n fuddiol iawn i’r busnes.
Rhaglenni arloesol ar gyfer pobl ifanc
Mae Youth Empowerment Mentoring eisoes yn cefnogi pobl ifanc trwy amrywiaeth o brosiectau a chydweithio.
“Gallaf fod yn gweithio un-i-un, ar-lein neu mewn ysgolion, yn cynnig gweithdai. Rwyf wedi datblygu cwricwlwm grymuso sy’n cael ei gyflwyno dros ddeuddeg wythnos,” meddai Tristian.
Mae hefyd yn cydweithio â busnesau ac elusennau lleol, gan gynnwys Eryri Mountaineering, lle mae ef a Callum Tipton yn rhedeg Her Wydnwch yr Wyddfa. “Rydym yn mynd â phobol ifanc i fyny’r Wyddfa ac yn cynnal gweithdai wrth gerdded mewn gwahanol leoliadau i fyny’r mynydd.”
Mae Tristian hefyd yn gweithio gyda chlwb pêl-droed TNS yng Nghroesoswallt, yn darparu pecyn lles trwy gydol y tymor.
“Rwy’n cynnig gweithdai'n fisol i'r clwb, ac yn cwrdd â chwaraewyr yr academi un-i-un i weithio ar eu meddylfryd a'u helpu i oresgyn unrhyw heriau y maent yn ei hwynebu.”
Gwyliwch y fideo isod am fwy o hanes Tristian.
Tanysgrifwch i’n cylchlythyr
Cofrestrwch i'n cylchlythyr lle cewch fanylion perthnasol i helpu'ch busnes chi a PDF Awgrymiadau Arfer Da Busnes!


