Aelod Hwb - Wonderland Marketing

Wonderland Marketing 3

21 Mai
2025

Mam ifanc o Fôn yn dod yn fòs arni hi ei hun 

Mae Alice Gregory, mam ifanc o Fôn, wedi llwyddo i sefydlu asiantaeth farchnata arloesol gyda chymorth Hwb Menter.  Mae Wonderland Marketing yn arbenigo mewn dylunio gwefannau, marchnata trwy ebyst, cynllunio strategol a rheoli cyfryngau cymdeithasol.

“Roeddwn i eisiau bod yn fos arnaf fy hun,” meddai Alice. “Roeddwn i eisiau gweithio gyda chwmnïau roeddwn i wir yn angerddol amdanynt.  Rwyf bob amser wedi gweithio i ffwrdd o adre oherwydd y diffyg swyddi marchnata yn yr ardal yma. Felly dwi wedi bod wrth fy modd yn gweithio mewn partneriaeth â chwmnïau lleol gyda fy musnes newydd.”

Mae Alice yn teimlo’n gryf bod cael rhwydwaith o fusnesau lleol yn gwneud gwahaniaeth mawr. 

 

Cefnogaeth hanfodol i gychwyn busnes

Pan benderfynodd Alice lansio Wonderland Marketing, daeth cymorth Hwb Menter yn allweddol yn y broses.

“Aled oedd fy nghyswllt yno, ac roedd yn wych,” eglura. “Roedd angen i mi gyflwyno fy nghais yn weddol gyflym gan fod y dyddiad cau rownd y gornel, ond fe helpodd fi wneud yn siŵr bod popeth yn ei le i wneud cais llwyddiannus.”  

Defnyddiodd Alice y grant i fuddsoddi mewn offer hanfodol i’w busnes - gliniadur i'w helpu i weithio o unrhyw le, a ffôn sy'n caniatáu iddi greu cynnwys yn rhan o'i gwasanaeth.  Yn ogystal ag offer, derbyniodd Alice gefnogaeth ar feysydd eraill, fel cyllid a strategaeth cynnwys.

“Gweithiais gyda rheolwr cyfryngau cymdeithasol i greu fy nghyfryngau cymdeithasol i gael ymwybyddiaeth o fy mrand newydd.”

 

Cydbwyso busnes a bywyd teuluol

Er ei bod yn angerddol am dyfu Wonderland Marketing, mae Alice hefyd yn cydbwyso bywyd teuluol gyda’i busnes newydd.

“Rwyf newydd gael babi hefyd, ac mae ceisio cydbwyso bod yn fam newydd a dechrau busnes yn amlwg yn eithaf anodd,” meddai. “Ond rydw i wrth fy modd ac rydw i’n meddwl bod cael pobol o’ch cwmpas yn eich cefnogi yn y camau cychwynnol yn wirioneddol bwysig. Dwi wrth fy modd.”

 

Prosiectau cyffrous ar y gweill

Mae Wonderland Marketing eisoes wedi denu cleientiaid cyffrous ac mae Alice yn edrych ymlaen at flwyddyn brysur o brosiectau newydd.

“Rwy’n gweithio gyda rhai cleientiaid cŵl iawn ac mae llawer o brosiectau da yn mynd i fod ar y gweill, er enghraifft mae’n ymddangos bod yna lawer iawn o bobol eisiau gwefannau newydd ar hyn o bryd.” meddai. 

 

Gwyliwch y fideo isod am fwy o hanes Alice.

Tanysgrifwch i’n cylchlythyr

Cofrestrwch i'n cylchlythyr lle cewch fanylion perthnasol i helpu'ch busnes chi a PDF Awgrymiadau Arfer Da Busnes!