Aelod Hwb - MPW Making Places Work
4 Mehefin
2025
Busnes o Fôn yn gobeithio trawsnewid canol trefi a dinasoedd Cymru
Mae un sy’n wreiddiol o Fôn yn brysur yn ceisio trawsnewid canol trefi a dinasoedd ledled Cymru. Ers lansio Making Places Work ym mis Mai’r llynedd, mae Medi Parry-Williams, y sylfaenydd a'r cyfarwyddwr, wedi partneru â'r sectorau cyhoeddus a phreifat i arwain ar nifer o brosiectau sy'n cynnig atebion pwrpasol er mwyn trawsnewid canol trefi a dinasoedd.
Mae Medi, sy'n wreiddiol o Ynys Môn, wedi bod yn ymwneud â nifer o leoliadau ledled Cymru, gan gynnwys Bangor, Ynys Môn a Sir y Fflint yn cynghori ar strategaethau marchnata, cysylltiadau cyhoeddus a chyfathrebu. Yn fwy diweddar, penodwyd Medi gan Trefi SMART Cymru i gefnogi busnesau'r stryd fawr ledled Cymru ac asiantaethau sy'n eu cefnogi ar sut i ddefnyddio data i wneud penderfyniadau mwy gwybodus.
“Fe wnaeth rhywun awgrymu fy mod i’n siarad gyda Hwb Menter am y cyfleoedd i fusnesau cychwynnol, a des i’n gyflym mewn cysylltiad â’r Hwb,” meddai Medi. “Fe aethant drwy bob proses gyda mi o ran y cymorth oedd ar gael. Dw i wedi ffeindio popeth i fod yn hynod o ddefnyddiol ac effeithlon drwy bob cam.”
Defnyddiodd Medi’r cyllid a gafodd tuag at ddatblygu ei brand a’i adeiladu, a hefyd i lansio gwefan ar gyfer ei busnes. “Fe wnaeth hynny fy ngalluogi i gael platfform digidol i hyrwyddo, ac ymgysylltu â fy nghwsmeriaid a chwsmeriaid newydd, a rhannu tystebau, astudiaethau achos a’r gwasanaethau rwy’n eu cynnig yn y Gymraeg a’r Saesneg.
“Fy ngweledigaeth yw gweithio yng Nghymru, cefnogi busnesau Cymreig a gweithio gyda’r gymuned Gymreig. Dros y misoedd nesaf, rwyf nawr yn bwriadu cael fersiwn Gymraeg o fy ngwefan drwy’r grant ychwanegol, i gyfathrebu’n effeithiol gyda fy nghwsmeriaid a sefydliadau yng Nghymru, a hefyd i ddangos fy ymrwymiad i’r iaith Gymraeg.
“Trwy weithio gydag a chael cefnogaeth gan Hwb Menter, fe awgrymon nhw fy mod i’n siarad â Threfi SMART ac rwy’n llwyr edmygu beth mae Trefi SMART Cymru yn ceisio ei gyflawni, a’r gefnogaeth mae'n ei roi i Gymru, busnesau yng Nghymru, canol trefi yng Nghymru – yn nhermau creu Trefi SMART a defnyddio’r data hwnnw wedyn i dyfu a dod yn fwy effeithlon ac effeithlon yn eu ffordd o wneud pethau. Rwy’n gyffrous iawn am weithio gyda Trefi SMART Cymru a chefnogi a chynghori ar sail fy mhrofiad, a chreu newid cadarnhaol yng Nghymru. A dyna un o’r amcanion allweddol o ran fy musnes a pham wyf am weithio yng Nghymru, gyda Chymru, ac yn yr iaith Gymraeg – i greu’r newid hwnnw.”
Gwyliwch y fideo isod am fwy o hanes Medi.
Tanysgrifwch i’n cylchlythyr
Cofrestrwch i'n cylchlythyr lle cewch fanylion perthnasol i helpu'ch busnes chi a PDF Awgrymiadau Arfer Da Busnes!


