Aelod Hwb - Cyfarwyddwr Creadigol XR

15 Ionawr
2025
Realiti rhithiol a thechnoleg drochi yn ffynnu ym Môn
Mae arbenigwr mewn technoleg newydd a realiti rhithiol wedi gweld ei busnes yn ffynnu diolch i gefnogaeth Hwb Menter.
Cyfarwyddwr Creadigol XR ydy Klaire Tanner, ac mae'n gweithio'n llawrydd gan arbenigo ym myd realiti rhithiol, realiti estynedig a thechnoleg drochi.
“Lansiais y busnes ym mis Ionawr a’r peth cyntaf wnes i pan ddechreuais edrych ar fynd yn llawrydd oedd cysylltu ag Aled o Menter Môn.”
Roedd y cymorth hwn yn cynnwys cael cyllid, rhywbeth a fu’n hanfodol wrth ddatblygu’r busnes.
“Diolch i hynny, fe ges i liniadur pwerus iawn – sef fy mara menyn, fwy neu lai! Mae wedi bod yn mynd yn dda iawn. Mae wedi bod yn wych," meddai.
Tyfu busnes arloesol ym Môn
Mae’r flwyddyn gyntaf wedi bod yn llwyddiant mawr i Klaire, gyda chleient newydd bob mis ers iddi gychwyn gweithio'n llawrydd.
“Dwi wedi bod yn eithaf ffodus yn yr ystyr fy mod wedi dod o hyd i gwmnïau i weithio iddynt sydd angen y set yma o sgiliau yng ngogledd Cymru,” meddai.
“Rwyf wedi gweithio ar lawer o brosiectau dros y flwyddyn ddiwethaf. Rwyf wedi bod yn gwneud realiti rhithiol yn sector gemau a dod a hynny i mewn i’r sector teledu hefyd. Cafodd fy ngweithdy AI ei ddylunio er mwyn helpu cwmnïau i ddefnyddio AI yn ymarferol yn rhan o'u busnes.”
Lle gwych i rannu syniadau
Yng ngofod M-Sparc yn y Gaerwen mae Klaire yn gweithio, ac mae hyd yn oed y lleoliad gwaith wedi chwarae rhan allweddol yn ei llwyddiant, gan roi'r amgylchedd perffaith iddi dyfu’r busnes.
"Mae M-Sparc wedi bod yn le anhygoel i ddod i weithio iddo,” eglura. “Beth sydd yn wych yw bod gen i gleient yn M-Sparc rŵan hefyd. Maen nhw’n rhoi mynediad i mi i’r gofod cydweithio ond y rhan fwyaf o’r amser mae'n well gen i weithio o’r caffi.”
Mae hyd yn oed dewis ble i eistedd wedi dod â chyfleoedd newydd i Klaire.
“Os wyf i yn eistedd yna yn gweithio ar rywbeth sy’n edrych yn cŵl, mae pobl yn tueddu i ddod draw i ofyn “www, beth ydi hwnna?” meddai. “Rwy'n creu cysylltiadau â chleientiaid yn llythrennol wrth eistedd yn y caffi, yn enwedig os rwy'n eistedd yna efo clustffonau realiti rhithiol ymlaen hefyd - mae pobol yn dod draw i siarad efo fi.”
Dyfodol disglair i dechnoleg drochi
Mae'r flwyddyn gyntaf wedi bod yn llwyddiant mawr i Klaire, ac mae'r gefnogaeth a gafodd wedi bod yn amhrisiadwy.
“Mae wedi gwneud gwahaniaeth enfawr yn fy mywyd,” meddai. “Mae wedi bod o fudd enfawr i mi.”
Gwyliwch y fideo isod am fwy o hanes Klaire.
Tanysgrifwch i’n cylchlythyr
Cofrestrwch i'n cylchlythyr lle cewch fanylion perthnasol i helpu'ch busnes chi a PDF Awgrymiadau Arfer Da Busnes!


