Aelod Hwb - Cymro Vintage

Cymro Vintage 1

1 Ionawr
2025

Hwb Menter yn "gic lan tîn" i ddyn ifanc fwrw ati gyda'i fusnes. 

Mae diddordeb un dyn mewn hen grysau pêl-droed wedi arwain at agor siop ddillad vintage yng Nghaernarfon.

Daw Dylan Jones o Gwm Gwendraeth yn wreiddiol, ond mae bellach wedi ymgartrefi yng Nghaernarfon ac wedi cymryd y naid i agor siop o'r enw Cymro Vintage yn y dre, wedi cyfnod yn arbrofi gyda gwerthu ar-lein a chynnal siop pop-yp.

Mae wedi hen arfer â mynd i'r dinasoedd mawr i brynu dillad vintage, ond gan bod llawer o'r siopau hynny'n gwerthu dillad o safon isel am bris uchel, fe welodd fwlch yn y farchnad am siop yn lleol fyddai'n gwerthu dillad ail-law o safon uchel, am bris rhesymol.

Mae'n cyfaddef iddo elwa'n fawr o raglenni sy'n rhoi cymorth i bobol ifanc sefydlu busnes.

"Roedd y rhaglen wir wedi rhoi'r cic lan tîn i mi ystyried mod i'n gallu gwneud rhywbeth gyda'r busnes," medd Dylan wrth sôn am raglen Miwtini Canol Tref yr Hwb Menter.

"Fe wnes i wir fwynhau sesiynau ar gadw cyfrifon a marchnata. Mae wedi cymryd lot o'r stress a'r pryderon oedd efo fi allan o'r ochr yna o'r busnes."

Yn ogystal ag ennill gwobr o £1000 ar ôl cyflwyno pitsh am ei syniad, derbyniodd becyn cymorth grant gan Hwb Menter i ddatblygu ymhellach.

"Dwi'n teimlo'n lwcus mod i wedi cael fy nerbyn i gael y pecyn cymorth," meddai. "Mae'r grant yna'n talu am y rhan fwyaf o'r biliau, sy'n safety net arall i mi."

Ar ôl mynd trwy gyfnod reit anodd gyda'i fywyd personol, mae'n ddiolchgar am y cyfle i ymuno ag elfen Mentro Llwyddo'n Lleol.

"Roedd yn gyfle rhy dda i beidio cymryd, ac fe wnaeth y cyfle yma roi'r sbarc i mi feddwl dwi'n gallu gwneud rhywbeth efo hwn."

"Mae'n reit surreal bod gen i siop a busnes fy hun, dyw e dal heb sincio mewn eto! Mae wir yn freuddwyd sydd wedi dod yn wir." 

Gwyliwch y fideo isod am fwy o hanes Dylan.

Tanysgrifwch i’n cylchlythyr

Cofrestrwch i'n cylchlythyr lle cewch fanylion perthnasol i helpu'ch busnes chi a PDF Awgrymiadau Arfer Da Busnes!