Dathlu Menywod mewn Gwyddoniaeth a Thechnoleg Mawrth 2022

23 Chwefror
2022

Rhaglen ILP Cymru - MIT yn Cyflwyno

Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cyfres o weminarau ar-lein tros ginio fydd yn cael eu cyflwyno gan arweinwyr dylanwadol yng nghyfadran MIT i ddathlu rôl menywod mewn STEM.

Ymunwch â’n sesiynau dysgu dros ginio ym mis Mawrth i ddysgu gan grŵp o fenywod sy’n gweithio mewn meysydd STEM ac yn datrys problemau mawr y byd, gan newid y ffordd y mae’r byd yn gweithio a lle cymdeithas ynddo.

Dim ond 20% o’r menywod yng Nghymru a enillodd radd mewn gwyddoniaeth ddilynodd gyrfa mewn pwnc STEM o’i gymharu â 44% o ddynion. Sut mae cynyddu amrywiaeth mewn STEM ac agor llwybrau gyrfa i daclo heriau’r byd?

Mae tua 10% o allyriadau Co2 y DU yn gysylltiedig â gweithgareddau adeiladu. Sut ydym am gyfrannu at fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd byd-eang a datgarboneiddio’r sector hwn a chyrraedd targedau sero net?
Mae peirianneg biofeddygol wedi creu chwyldro i gleifion cardiaidd. Sut mae defnyddio lle mae therapi mecanyddol a therapi biolegol yn cwrdd i sicrhau’r arfer gorau?

Bydd pob sesiwn yn rhedeg dros y wê, yn fywm rhwng 14:00–15:00 GMT.
Cewch fanylion llawn y rhaglen ddigwyddiadau a sut i gofrestru isod:

9 Fawrth - Datgarboneiddio'r Diwydiant Adeiladu - Caitlin Mueller

16 Mawrth - Grymuso Menywod mewn STEM ac Eirioli dros Amrywiaeth
Medrwch ymuno o M-SParc hefyd, yn fyw, yma.

31 Mawrth - Ymchwilydd yn y Labordy Dylunio a Datblygu Technoleg Therapiwtig
Ellen Roche

Tanysgrifwch i’n cylchlythyr

Cofrestrwch i'n cylchlythyr lle cewch fanylion perthnasol i helpu'ch busnes chi a PDF Awgrymiadau Arfer Da Busnes!