Cyfleoedd Cadwyn Gyflenwi Niwclear Gogledd Cymru

17 Rhagfyr
2021

Dadgomisiynu Niwclear – potensial mawr i ddod a chyfleoedd i fusnesau lleol

Mae Menter Môn yn y broses o arwain ar gynllun peilot er mwyn dadgomisiynu niwclear yng Ngogledd Cymru.

Trawsfynydd fydd yn arwain ar brosiect dadgomisinu adweithyddion Magnox yn y DU. Y bwriad ydi y bydd y cam yma yn sicrhau cyflogaeth yn yr ardal leol am y ddau ddegawd nesaf.

Bydd y newid yma mewn strategaeth yn arwain at gynnydd mewn gweithgaredd ar y safle am y ddau ddegawd nesaf ac mae ganddo’r potensial i ddod â buddion economaidd sylweddol i’r rhanbarth.

Dywedodd Gwen Parry Jones OBE – Prif Swyddog Gweithredol Magnox Ltd: “Mae Cymru, yn enwedig Gogledd Cymru yn gyfoeth o gyfleoedd o ran y gadwyn gyflenwi.

Dwi’n eich annog chi, bobl Cymru i ymgysylltu gyda’r sector dadgomisiynu niwclear gan ddysgu mwy am y cyfleoedd sydd ar gael yn Wylfa a Traws.”

Prif rôl Menter Môn yn y cynllun ydi ymgysylltu gyda’r gadwyn gyflewni, paratoi sessiynau gwybodaeth, cynnal gweithdai, ac annog a chefnogi cwmnïau lleol i fanteisio ar y cyfleoedd fydd yn rhan o’r broses.

Mae Menter Môn wedi arwain ar a gweithredu nifer o raglenni datblygiad economaidd dros y 25 mlynedd diwethaf ac erbyn hyn yn datblygu cynlluniau cyfredol o fewn y maes ynni.

Wrth fod wedi cydweithio gyda phartneriaid a busnesau yn yr ardal dros gyfnod sylweddol o amser, mae’r cwmni wedi llwyddo i adeiladu perthnasau a ffydd gydag eraill. Bydd y cysylltiadau hyn yn sylfaen gadarn i’r gwmni gefnogi buddion economaidd i’r ardal.

Ychwanegodd Bethan Fraser-Williams, Cyfarwyddwr Cynlluniau Menter Môn: “Gyda datblygiadau mawr wedi digwydd yn y maes dadgomisiynu niwclear yn ddiweddar, dros y 5 mlynedd nesaf bydd llawer o’n sylw yn troi at sicrhau bod y buddion economaidd yn aros yn lleol.

Ein gwaith ni fel Menter Gymdeithasol, trwy’r Hwb Menter ydi sicrhau bod y gefnogaeth ar gael ac ein bod ni’n cydweithio gyda busnesau bach a chanolig er mwyn iddyn nhw gael mynediad haws a chefnogaeth arbennigol at farchnad niwclear y DU ac yn enwedig y farchnad dadgomisiynu niwclear.”

Mwy o wybodaeth ar gael yma.

Tanysgrifwch i’n cylchlythyr

Cofrestrwch i'n cylchlythyr lle cewch fanylion perthnasol i helpu'ch busnes chi a PDF Awgrymiadau Arfer Da Busnes!