Aelod Hwb: Academi Ddawns Rebekah

30 Medi
2022

Sefydlodd Rebekah Berry o Academi Ddawns Rebekah, ei busnes i ennyn diddordeb plant a phobl ifanc mewn dawns, gyda’r nod o’u hannog i ymwneud â gweithgarwch corfforol a mynegiant creadigol. Drwy gyfuno ei hangerdd ei hun tuag at ddawns a’i chariad at addysgu, defnyddiodd Rebekah ei phrofiad a’i hyfforddiant i ddechrau ei thaith fusnes ei hun. Caniataodd hyn iddi weithio iddi hi ei hun, mwynhau ei gyrfa, a chael effaith gadarnhaol ar ei chymuned leol.

Dywedwch wrthym ni sut y gwnaethoch chi ddechrau'r busnes?

Roedd gen i syniad am yr hyn roeddwn i eisiau ei wneud, ond yn anffodus doedd yr arian ddim gen i ar y pryd i ddechrau arni. Darganfyddais y grant 'Rhwystrau rhag Dechrau Busnes', gwnes gais amdano, a diolch byth roeddwn i’n llwyddiannus. Trwy’r broses ymgeisio am grant ‘Rhwystrau rhag Dechrau Busnes’ cefais fentor busnes (yn yr Hwb Menter) a oedd yn amhrisiadwy. Roedd hi yno pan oeddwn i angen cyngor a chefnogaeth. Fel rhan o'r broses ymgeisio am grant, bûm hefyd mewn seminar busnes ar-lein a oedd yn hynod ddefnyddiol ac yn ysgogol iawn.

Llongyfarchiadau mawr am lwyddo i sicrhau’r grant! Nawr eich bod chi ar eich taith fusnes, beth ydych chi fwyaf balch ohono hyd yma?

Roedd bod yn llwyddiannus yn fy nghais am grant bendant yn un, oherwydd roedd yn gadarnhad bod gen i syniad da a model busnes cadarn. Roedd hefyd yn golygu bod eraill yn gweld fy mhotensial, roedd hyn yn galonogol iawn wrth i mi weithio i adeiladu gyrfa barhaol yma yn yr ardal leol yr wyf i’n ei charu. Rwyf nawr yn gallu rhoi rhywbeth yn ôl i fy nghymuned leol. Rwyf wedi dysgu llawer ar hyd y ffordd. Pe bawn yn gwneud hyn eto, byddwn yn gwneud mwy o ymchwil i strategaethau marchnata a gwefannau llawer ynghynt yn y broses.

Mae adeiladu busnes yn ymwneud â'r dysgu! Gan edrych i'r dyfodol, a oes gennych chi unrhyw gynlluniau mawr yn eu lle?

Rwyf am adeiladu busnes llwyddiannus, adnabyddus sy’n dod â llawenydd, hyder a rhyddid mynegiant creadigol i blant Gogledd Cymru, ac rwyf bellach yn tyfu i ehangu hyn i oedolion hefyd. Yn y dyfodol hoffwn agor fy stiwdio ddawns fy hun! Byddai’n wych gallu ehangu’r cyfleoedd sydd ar gael ar Ynys Môn.

Ydych chi’n defnyddio’r Gymraeg yn eich busnes, ac ydy hynny wedi bod o ddefnydd i chi?

Rwy'n siarad Cymraeg a Saesneg yn rhugl ac mae mwyafrif fy ngweithdai yn ddwyieithog. Mae defnyddio’r Gymraeg wedi fy ngalluogi i gyrraedd ac addysgu ystod ehangach o blant a phobl ifanc, ac i gyflwyno dawns i grwpiau efallai na fyddwn i wedi gallu fel arall. Rwy'n arbenigo mewn dawnsio Stryd a Hip-Hop sydd (yn fy mhrofiad i) fel arfer yn cael ei ddysgu trwy gyfrwng yr iaith Saesneg. Mae'n dod â llawenydd mawr i mi i allu ei ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae bod yn rhan o'r gymuned a helpu eraill yn ymddangos yn sbardun mawr i'ch busnes. A oes unrhyw gyngor y byddech chi’n ei roi i fusnesau eraill?

Darganfyddwch eich brand personol eich hun a defnyddiwch eich natur unigryw eich hun i’ch mantais! Cofiwch y bydd heriau newydd yn codi drwy’r amser, waeth ble rydych chi ar eich taith. Peidiwch â gadael iddyn nhw eich digalonni, defnyddiwch nhw er mantais i chi a gadewch iddyn nhw eich helpu chi i barhau i ddysgu a thyfu. Mae’n bwysig ymlacio – efallai fod hyn yn rhyfedd ond gall gorffwys fod mor bwysig â gweithio! Ac wrth gwrs, peidiwch â bod ofn gwneud camgymeriadau, mae hyn yn eich helpu i gymryd cyfleoedd a chyflawni pethau na fyddech chi fel arall wedi’u cyflawni. Dysgwch a thyfwch o’r rhain, mae’r cyfan yn ymwneud â phrofi a methu.

Ardderchog! Mae’n rhaid i ni holi; sut mae'r Hwb Menter wedi eich cefnogi chi?

Drwy roi’r nhw’r wybodaeth ddiweddaraf i mi am gyfleoedd seminarau busnes, y newyddion diweddaraf, a darparu mentor busnes i mi sydd wedi fy helpu a rhoi cyngor, cymorth ac anogaeth i mi bob cam o’r ffordd. Rwyf wedi elwa o fynychu eich seminarau busnes, lle rwyf fi wedi cyfarfod arbenigwyr marchnata a busnes gwych.

Tanysgrifwch i’n cylchlythyr

Cofrestrwch i'n cylchlythyr lle cewch fanylion perthnasol i helpu'ch busnes chi a PDF Awgrymiadau Arfer Da Busnes!