Gwobrau Hwb Menter 2022

21 Hydref
2022

Mae’r gwobrau hyn yn agored i aelodau’r Hwb Menter sydd wedi sefydlu neu ddatblygu eu busnes gyda chefnogaeth yr Hwb Menter dros y pedair blynedd diwethaf, a tenantiaid (yn cynnwys rhithiol) M-SParc. Efallai eich bod wedi cael cyfarfod 1i1 gydag un o’n Hymgynghorwyr, gweithio o un o’n lleoliadau, cymryd rhan mewn rhaglen Miwtini, defnyddio Gofod Creu Ffiws neu mynychu un o’n digwyddiadau niferus mewn person neu ar-lein. Os ydych chi wedi cael cysylltiad â ni, rydyn ni eisiau clywed gennych chi!

Bydd enillwyr bob categori yn cael eu gwahodd i noson ddathlu yn M-SParc ar yr 8fed o Ragfyr 2022. Bydd rhagor o fanylion ar gael unwaith y bydd yr enillwyr wedi’u dewis. Cyfle gwych i ddathlu eich cyflawniadau a rhwydweithio gyda busnesau eraill. Nid oes unrhyw gost i gymryd rhan yn y Gwobrau ac mae'r noson ddathlu wedi'i hariannu'n llawn (eithrio diodydd).

Categories

1. GWOBR AELOD GORAU

Mae’r wobr hon yn agored i holl aelodau’r Hwb Menter, unrhyw unigolyn / busnes sydd wedi dod i gysylltiad â’r Hwb Menter @M-SParc ac wedi’i gefnogi ganom. Ydych chi'n credu mai chi yw'r busnes gorau yn yr ardal? Beth sy'n eich gwneud chi'n unigryw? Pa lwyddiannau ydych chi wedi'u cael? Pa effaith ydych chi wedi'i chael? Beth yw eich uchelgeisiau ar gyfer y dyfodol? Gwerthwch eich hun!

2. GWOBR MIWTINI GORAU

Ydych chi wedi bod yn rhan o un o'n rhaglenni Miwtini? Mae'r wobr hon ar eich cyfer chi. Ydych chi'n credu mai chi yw'r Miwtinieer gorau? Beth sy'n eich gwneud chi a'ch busnes yn unigryw? Pa lwyddiannau ydych chi wedi'u cael? Pa effaith ydych chi wedi'i chael? Beth yw eich uchelgeisiau ar gyfer y dyfodol? Gwerthwch eich hun!

3. GWOBR RHYFELWR ECO

Pwrpas y wobr hon yw cydnabod busnesau sydd â chymwysterau gwyrdd. Ydych chi'n ystyried eich busnes yn un foesegol neu'n gymdeithasol gyfrifol? Efallai eich bod chi'n defnyddio deunyddiau wedi'u hailgylchu yn eich cynhyrchion? Efallai eich bod yn rhedeg rhaglenni amgylcheddol? Efallai eich bod yn cefnogi busnesau eraill i anelu at Sero Net? Os ydych chi'n rhyfelwr eco rydym eisiau clywed gennych chi!

4. GWOBR SEREN GYMUNEDOL

Bwriad y wobr hon yw cydnabod busnesau sydd wedi cael effaith gadarnhaol ar eu cymuned leol. A yw eich busnes yn uchel ei barch yn y gymuned? Ydy pobl leol wrth galon popeth a wnewch? Rydym am dynnu sylw at yr effaith yr ydych yn ei gael ar y rhai o'ch cwmpas.

5. GWOBR CHWALWR RHWYSTRAU

Mae ymchwil wedi dangos bod yr heriau y mae busnesau wedi’u hwynebu dros y blynyddoedd diwethaf wedi’u teimlo fwyaf gan entrepreneuriaid o grwpiau a dangynrychiolir a grwpiau difreintiedig ym maes entrepreneuriaeth. Grwpiau megis menywod, pobl anabl, pobl ethnigrwydd Du, Asiaidd a Lleiafrifol, pobl ifanc a phobl hŷn, yn ogystal â’r rhai sy’n dechrau busnes o ddiweithdra. Ydych chi'n unigolyn o un o'r grwpiau hyn sydd wedi wynebu heriau yn eich taith cychwyn busnes? Rydyn ni eisiau clywed am eich dyfalbarhad a'ch meddwl penderfynol i oresgyn eich heriau. Fel arall, efallai eich bod yn fusnes sydd wedi cymryd camau i ddileu gwahaniaethu ac annog cynhwysiant. Rydym eisiau clywed sut mae’r camau hyn wedi dangos effaith gadarnhaol.

6. GWOBR ARLOESWR ARBENNIG

Ydych chi'n denant wedi eich lleoli yn M-SParc neu yn rhithiol? Mae'r wobr hon ar eich cyfer chi. Ydych chi'n credu mai chi yw'r tenant fwyaf arloesol yn yr adeilad? Beth sy'n eich gwneud chi a'ch busnes yn arloesol? Pa lwyddiannau ydych chi wedi'u cael? Pa effaith ydych chi wedi'i chael? Beth yw eich uchelgeisiau ar gyfer y dyfodol? Gwerthwch eich hun!

7. GWOBR GORAU CHWARAE, CYD-CHWARAE

Ydych chi'n denant wedi eich lleoli yn M-SParc neu yn rhithiol? Mae'r wobr hon ar eich cyfer chi. Credwn fod gwaith tîm yn gwneud i'r freuddwyd weithio ac nid oes lle gwell na M-SParc i ddod o hyd i gyfleoedd cydweithio o'r fath! A ydych chi wedi cydweithio â thenant arall ar brosiect penodol? Neu efallai eich bod wedi cydweithio â sefydliadau eraill o fewn y sector preifat neu gyhoeddus? Rhowch wybod i ni!

>>Gwnewch Gais Yma!<<

Dyddiad Cau = 9fed Dachwedd 2022

Tanysgrifwch i’n cylchlythyr

Cofrestrwch i'n cylchlythyr lle cewch fanylion perthnasol i helpu'ch busnes chi a PDF Awgrymiadau Arfer Da Busnes!