Aelod Hwb: Iogis Bach

28 Hydref
2022

Cafodd Leri Foxhall y syniad am Iogis Bach tra ar gyfnod mamolaeth. Oherwydd Covid, doedd dim llawer o gyfleoedd i gyfarfod rhieni eraill gyda babanod mewn grwpiau, ac ar ôl gweld sesiwn ioga i fabanod ar y we, dechreuodd hyfforddi i ddysgu ioga i rieni a babanod, a thylino babi! Ganed Iogis Bach (Little Yogis) gyda’r bwriad o ehangu mynediad i weithgareddau iechyd a lles yn y gymuned.

Leri, rydyn ni’n hoffi’r stori am sut gawsoch chi’r syniad am y busnes. Dywedwch sut wnaethoch chi lwyddo i symud ymlaen o syniad i fusnes?

Roeddwn i’n arfer dysgu mewn ysgol gynradd, ac yn cynnig sesiynau Ioga i fy nosbarth ar y pryd. Felly, mae gen i brofiad o ddysgu. Mi wnes i gais i’r rhaglen Llwyddo’n Lleol, a bûm i’n llwyddiannus! Am 10 wythnos dysgais am y broses o ddechrau busnes. Cawsom sesiynau hyfforddi, a chefnogaeth 1:1 gan yr Hwb Menter hefyd.

Roedd y gefnogaeth i gyd yn hynod werthfawr, ac rwyf wedi dysgu cymaint ar hyd y daith. Bellach, mae’r busnes yn ehangu ac yn cynnig ioga i blant yn y gymuned, yn ogystal â sesiynau iechyd a lles i ysgolion.

Gwych, mae’n swnio fel eich bod wedi gwneud y mwyaf o’r gefnogaeth sydd ar gael. Oes yna unrhyw uchafbwyntiau ar hyd y daith hyd yn hyn?

Cyrraedd rhestr fer gwobrau Llais Cymru 2022 yn y categori Busnes Newydd. Mae’r gwobrau i Ferched Cymru mewn busnes, ac roedd cael fy enwebu yn deimlad gwych, heb sôn am gyrraedd y rhestr fer.

Llongyfarchiadau! Beth yw eich cynlluniau i’r dyfodol?

Fy ngobaith yw y bydd Iogis Bach yn parhau i ehangu, gan gynnig mwy o ddosbarthiadau i athrawon, plant yn y gymuned, ac ysgolion. Byddaf hefyd yn parhau i gyflwyno’r gwasanaeth yn y Gymraeg, sydd yn bwysig i helpu rhieni deimlo’n fwy cyfforddus mewn sesiynau. Rwy’n sicr yn teimlo’n fwy cartrefol yn dysgu sesiynau drwy gyfrwng y Gymraeg.

Oes gennych chi unrhyw gyngor fyddech chi’n hoffi ei rannu gydag entrepreneuriaid eraill?

Yn bendant. Yn gyntaf, byddwn yn dweud, os oes gennych chi syniad, yna ewch amdani. Dydi pethau ddim yn gweithio allan ar y dechrau, felly byddwch yn barod i ddyfalbarhau. Mae cymorth ar gael allan yna felly gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gofyn amdano ac adeiladu eich cysylltiadau a’ch rhwydwaith wrth i chi fynd ymlaen. Mae’n anodd ond mae o werth o!

Cyngor gwych. I orffen, sut mae’r Hwb Menter wedi eich cefnogi?

Mae’r Hwb Menter wedi bod mor werthfawr, yn enwedig y Cynghorydd Busnes. Mae’n braf cael rhywun y gallwch chi droi atynt pan ydych chi’n ansicr am rywbeth. Diolch!

Tanysgrifwch i’n cylchlythyr

Cofrestrwch i'n cylchlythyr lle cewch fanylion perthnasol i helpu'ch busnes chi a PDF Awgrymiadau Arfer Da Busnes!