Dosbarth Meistr 5ed Trefi SMART

18 Mai
2021

Pecyn Cymorth i Greu Trefi SMART

Cefndir

Roedd y digwyddiad rhagarweiniol yn edrych ar pe gallem fonitro iechyd Stryd Fawr yn yr un modd ag yr ydym yn monitro iechyd ein hunain. Yn hytrach na chyfrif ôl troed, a allwn ni gyfrif nifer yr ymwelwyr? Yn hytrach na mesur budd ymarfer corff, a allwn fesur budd parcio am ddim a lleoedd i gerddwyr? Yn hytrach nag olrhain ein ffitrwydd dros y flwyddyn, a allwn olrhain nifer yr ymwelwyr?

Mae'r dechnoleg yn bodoli ac eisoes yn cael ei defnyddio yn nhrefi Cymru i wneud penderfyniadau gwybodus a chynllunio ar gyfer y dyfodol. O ystyried y pwysau ar y Stryd Fawr ac effaith COVID19 mae'n bwysig bod busnesau'n gallu manteisio ar dechnoleg ddigidol, yn yr un ffordd ag y maen nhw wedi bod yn ei wneud mewn canolfannau siopa ac archfarchnadoedd ers blynyddoedd.

Ceir y Dosbarthiadau Meistr yma eu cynnal gan Menter Môn drwy yr Hwb Menter a'u cefnogi gan Lywodraeth Cymru, fel rhan o'i hagenda adfywio canol tref 'Trawsnewid Trefi'.

Gall y digwyddiad rhagarweiniol gael ei wylio yn ol yma.


5ed Dosbarth Meistr - Pecyn cymorth ar gyfer creu trefi SMART

Mae’r dosbarth meistr olaf yn cyflwyno pecyn cymorth ar gyfer creu trefi SMART. Bydd y pecyn cymorth yn helpu i arwain trefi trwy'r broses o weithredu a defnyddio synwyryddion a data. Fel ran o’r pecyn cymorth bydd cyfres o weithdai yn digwydd er mwyn annog a gweithredu prosiectu trefi SMART gan ddefnyddio cysyniadau a ddysgwyd ar draws y dosbarthiadau meistr. Yn ogytal a’r gweithdai bydd hefyd adnoddau defnyddiol yn cael eu cyflwyno gan gynnwys fideos, cyflwyniadau a podlediadau

Tanysgrifwch i’n cylchlythyr

Cofrestrwch i'n cylchlythyr lle cewch fanylion perthnasol i helpu'ch busnes chi a PDF Awgrymiadau Arfer Da Busnes!