Dosbarth Meistr 4yddTrefi SMART

Masterclass 4

31 Mawrth
2021

Trefi SMART - Rhyngrwyd y Pethau a Data

Cefndir

Roedd y digwyddiad rhagarweiniol yn edrych ar pe gallem fonitro iechyd Stryd Fawr yn yr un modd ag yr ydym yn monitro iechyd ein hunain. Yn hytrach na chyfrif ôl troed, a allwn ni gyfrif nifer yr ymwelwyr? Yn hytrach na mesur budd ymarfer corff, a allwn fesur budd parcio am ddim a lleoedd i gerddwyr? Yn hytrach nag olrhain ein ffitrwydd dros y flwyddyn, a allwn olrhain nifer yr ymwelwyr?

Mae'r dechnoleg yn bodoli ac eisoes yn cael ei defnyddio yn nhrefi Cymru i wneud penderfyniadau gwybodus a chynllunio ar gyfer y dyfodol. O ystyried y pwysau ar y Stryd Fawr ac effaith COVID19 mae'n bwysig bod busnesau'n gallu manteisio ar dechnoleg ddigidol, yn yr un ffordd ag y maen nhw wedi bod yn ei wneud mewn canolfannau siopa ac archfarchnadoedd ers blynyddoedd.

Ceir y Dosbarthiadau Meistr yma eu cynnal gan Menter Môn drwy yr Hwb Menter a'u cefnogi gan Lywodraeth Cymru, fel rhan o'i hagenda adfywio canol tref 'Trawsnewid Trefi'.

Gall y digwyddiad rhagarweiniol gael ei wylio yn ol yma.

4ydd Dosbarth Meistr - Seilwaith digidol ar gyfer tref SMART

Roedd y dosbarth meistr yma yn canolbwyntio ar yr elfennau technegol o ddatblygu'r haen seilwaith sydd ei hangen ar gyfer tref SMART. Beth yw'r gwahanol dechnolegau angenrheidiol ar gyfer creu seilwaith cyfathrebu a lleoliad addas ar gyfer y dyfodol? Mi ddaru ni edrych ar yr amrywiol opsiynau sydd ar gael gan gynnwys wifi, GPS, gofod gwyn teledu, 5G a'r amserlenni ar gyfer esblygiad y technolegau hyn ynghyd â'r partneriaethau y gallai fod angen eu datblygu. Y prif siaradwr yw Linda Chandler, Cynghorydd Byd-eang Trefi Smart.

Cofiwch archebu eich lle ar y 5 Dosbarth Meistr yma.

Tanysgrifwch i’n cylchlythyr

Cofrestrwch i'n cylchlythyr lle cewch fanylion perthnasol i helpu'ch busnes chi a PDF Awgrymiadau Arfer Da Busnes!