Dosbarth Meistr 3ydd Trefi SMART

22 Mawrth
2021

Trefi SMART - Rhyngrwyd y Pethau a Data

Cefndir

Roedd y digwyddiad rhagarweiniol yn edrych ar pe gallem fonitro iechyd Stryd Fawr yn yr un modd ag yr ydym yn monitro iechyd ein hunain. Yn hytrach na chyfrif ôl troed, a allwn ni gyfrif nifer yr ymwelwyr? Yn hytrach na mesur budd ymarfer corff, a allwn fesur budd parcio am ddim a lleoedd i gerddwyr? Yn hytrach nag olrhain ein ffitrwydd dros y flwyddyn, a allwn olrhain nifer yr ymwelwyr?

Mae'r dechnoleg yn bodoli ac eisoes yn cael ei defnyddio yn nhrefi Cymru i wneud penderfyniadau gwybodus a chynllunio ar gyfer y dyfodol. O ystyried y pwysau ar y Stryd Fawr ac effaith COVID19 mae'n bwysig bod busnesau'n gallu manteisio ar dechnoleg ddigidol, yn yr un ffordd ag y maen nhw wedi bod yn ei wneud mewn canolfannau siopa ac archfarchnadoedd ers blynyddoedd.

Ceir y Dosbarthiadau Meistr yma eu cynnal gan Menter Môn drwy yr Hwb Menter a'u cefnogi gan Lywodraeth Cymru, fel rhan o'i hagenda adfywio canol tref 'Trawsnewid Trefi'.

Gall y digwyddiad rhagarweiniol gael ei wylio yn ol yma.

3ydd Dosbarth Meistr - Rhyngrwyd y Pethau a Data

Ddaru'r dosbarth meistr hwn parhau i archwilio'r ‘beth’ o Trefi SMART, sy’n canolbwyntio ar Ryngrwyd y Pethau a’r data y mae’n ei greu. Dechreuodd gyda primer IoT sy'n cwmpasu llwyfannau synhwyrydd a chadwrfeydd data; edrychwyd ar y don nesaf o arloesi sy'n cysylltu'r corfforol a'r rhithiol trwy'r cysyniad o Efeilliaid Digidol. Yn olaf, ddaru ni archwilio rhai o'r pryderon moesegol a'r defnydd cyfrifol o ddata lleoliad.

Medrwch gofrestru i'r sesiwn olaf yma.

Tanysgrifwch i’n cylchlythyr

Cofrestrwch i'n cylchlythyr lle cewch fanylion perthnasol i helpu'ch busnes chi a PDF Awgrymiadau Arfer Da Busnes!