Cyllid i Dyfu

24 Mehefin
2021

Mae'r Hwb Menter, ynghyd ag M-SParc a B-Fentrus, nawr yn cynnig grantiau i cefnogi busnesau sy'n cychwyn, yn y sectorau carbon isel, ynni ac amgylchedd, TGCh a gwyddor bywyd.

Ydych chi'n ffitio i mewn i un o'r categorïau canlynol?

  • Tanio - Cychwyn busnes ac yn chwilio am arian i ddatblygu'r fenter newydd?
  • Arloesi - Prosiect ymchwil sy'n gobeithio masnacheiddio ar y canlyniad?


Mae gennym ni gronfa o gyllid ar gyfer y ddwy a grybwyllir uchod, a'r cyfan sydd angen i chi ei wneud ydi'n hargyhoeddi eich bod chi'n ei haeddu. Manteisiwch ar y cyfle hwn i ennill cyllid ar gyfer llwyddiant!


Mi fydd yn helpu i fynd â'ch busnes i'r lefel nesaf, eich galluogi i logi staff newydd, eich galluogi i ddod â syniad newydd i'r farchnad ... a mwy? Mae angen i chi ddweud wrthym!

Mae'r pot cyllido hwn ar agor tan y 9fed o Orffennaf.

Tanio - £10,000

Ydych chi am sefydlu busnes yn y Sector Gwyddoniaeth, Tech neu Creadigol? Mae Tanio yn chwilio am entrepreneuriaid deinamig! Mae gennym bot o £10,000 ar gael, y byddwn yn ei rannu yn ôl ein disgresiwn. Gall hyn olygu bod sawl prosiect yn rhannu'r pot, neu mai un fenter anhygoel sy'n derbyn y rhodd cyfan. Byddwn hefyd yn darparu cefnogaeth fusnes i'r enillwyr. Os ydych chi newydd gychwyn, ac yn gwybod eich bod chi hefo syniad gwych ond ddim yn gwybod sut y byddwch chi'n cael yr arian i ddechrau, yna beth am fynd amdani?

Beth sydd ei angen?

Llenwch y ffurflen fer hon, gan ddweud wrthym am eich syniad a pham mae angen yr arian arnoch chi. Dyma'ch cyfle i wneud argraff arnom ni, felly peidiwch â gadael unrhyw fanylion allan! Byddwn yn asesu pob un, ac yn gwahodd y rhai sy'n sefyll allan i gyflwyno eu syniad i ni mewn person (neu yn rhithiol!).


Arloesi - £20,000

Oes gennych chi brosiect ymchwil y gwyddoch a allai droi’n gyfle masnachol, dim ond ychydig o gymorth ariannol sydd ei angen arnoch chi? Mae Arloesi ar gyfer busnesau yn y rhanbarth sydd ar hyn o bryd yn y cam ymchwil. Efallai eich bod yn edrych i mewn i ddatblygu cynhyrchion newydd i'ch cwmni, neu megis cychwyn yn y farchnad. Mae gennym bot o £20,000 ar gael, y byddwn yn ei rannu yn ôl ein disgresiwn. Gall hyn olygu bod sawl prosiect yn rhannu'r pot, neu mai un fenter anhygoel sy'n derbyn y rhodd.

Beth sydd ei angen?

Llenwch y ffurflen fer hon Dywedwch wrthym am eich prosiect, a chofiwch roi manylion am y potensial i fasnacheiddio'r prosiect. Byddwn mewn cysylltiad yn dilyn y dyddiad cau, i drafod eich prosiect ymhellach.

Tanysgrifwch i’n cylchlythyr

Cofrestrwch i'n cylchlythyr lle cewch fanylion perthnasol i helpu'ch busnes chi a PDF Awgrymiadau Arfer Da Busnes!