Aelod Hwb: Sunset Plan

TSP 01 Cropped Kerry

8 Mawrth
2021

Wedi'i gychwyn gan Kerry Jones yng Ngogledd Cymru, nod Sunset Plan yw annog a grymuso pobl i gynllunio a pharatoi ar gyfer eu materion diwedd oes ymarferol. Yn dilyn cefnogaeth gan Busnes Cymru a'r Hwb Menter @ M-SParc i sicrhau llif arian a dechrau'r busnes, mae Kerry bellach yn lansio cam newydd o'r busnes.

Sefydlwyd Sunset Plan yng Ngogledd Cymru, er mwyn grymuso pobl i gynllunio a pharatoi ar gyfer materion diwedd oes. Gwefan sy'n cwmpasu'r DU yw Sunset Plan ac mae'n cynnig erthyglau i helpu pobl i gynllunio ymlaen llaw o ran ‘gweinyddu bywyd’, fel nad yw eu teulu a'u ffrindiau yn ei chael hi’n anodd ymdopi pan ddaw'r amser. Mae'r gwasanaeth yn ehangu i gynnig gwasanaeth ‘claddgell ddigidol’ ym mis Mawrth 2021, i alluogi pobl i drefnu, storio a rhannu eu gwybodaeth allweddol a'u dymuniadau ar gyfer y dyfodol i helpu eu hanwyliaid.

Dechreuodd y busnes oherwydd amgylchiadau personol a phrofiad llawn straen i Kerry yn dilyn colli rhywun annwyl. Roedd Kerry yn awyddus i gynnig ateb i'r trallod ychwanegol allai gael ei greu ar ddiwedd oes. Wrth fynychu cwrs 'Rhoi Cynnig Arni', a gynhaliwyd mewn cydweithrediad â Busnes Cymru a'r Hwb Menter, anogwyd Kerry i sefydlu'r wefan a dechrau'r busnes.

“Roedd y gefnogaeth a gefais mor ddefnyddiol, ac yn amrywio o gyngor ar lif arian, marchnata a GDPR i hawlfraint. Cefais hefyd gymorth busnes 1-2-1 gan yr Hwb yn y misoedd yn dilyn, yn ogystal â chyfleoedd rhwydweithio ychwanegol, a mynediad i fusnesau sefydledig eraill a allai gynnig cyngor. Rwy'n parhau i gael cefnogaeth gan y gymuned newydd ledled Gogledd Cymru, sy'n amhrisiadwy.”

Lansiwyd y busnes yn ystod cyfnod Covid, ac nid oedd hynny’n fwriad a gallai fod wedi'i gam-amseru, ond sylweddolodd Kerry fod pobl yn meddwl am eu bywyd eu hunain a chynllunio etifeddiaeth yn fwy nag erioed, ac felly tyfodd y diddordeb yn ei busnes o bob cwr o'r byd!

“Y nod bob amser oedd cynnig gwasanaeth claddgell ddigidol ddiogel i gwsmeriaid greu eu cynlluniau diwedd oes ar-lein. Mae creu llwyfan wedi'i gyd-frandio, sydd i'w lansio ar 23 Mawrth 2021, yn gweld gwireddu'r nod hwnnw. Roedd gweld enghraifft o’r cynnyrch a sylweddoli mai dyma'r hyn yr oeddwn i wedi'i ragweld o ddiwrnod 1 yn dod yn fyw yn foment falch iawn. Ar adegau, roedd yn ymddangos mor bell ac anghyraeddadwy y byddai wedi bod yn haws rhoi'r gorau iddi. Fodd bynnag, rwyf mor falch y gallai'r ymrwymiad a'r gwaith caled a aeth i mewn i'r busnes hwn fod ar fin cael eu gwobrwyo drwy gyrraedd y nod hwnnw.”

Dywedodd Bethan Fraser-Williams, Cynghorydd Busnes Kerry yn yr Hwb, “Mae Kerry wedi adeiladu busnes gwych mewn cyfnod mor fyr. Roedd ganddi ffocws gwych yn ystod ein trafodaethau ac roedd y ffaith bod ganddi weledigaeth gref yn ei gwneud hi'n hawdd i ni ei chefnogi yn y ffordd fwyaf effeithiol.”

Ariennir yn rhannol gan Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Tanysgrifwch i’n cylchlythyr

Cofrestrwch i'n cylchlythyr lle cewch fanylion perthnasol i helpu'ch busnes chi a PDF Awgrymiadau Arfer Da Busnes!