Aelod Hwb: PharmaGroup

15 Mawrth
2021

Sefydlwyd PharmaGroup Holdings gan Rhys Owen, i gynhyrchu cynhyrchion sy'n cynnig manteision iechyd a lles. Mae'r cwmni bellach yn cyflogi 30 o staff, ac yn gwerthu cynhyrchion, fferyllol a gofal iechyd yn ogystal a darparu gwasanaeth storio a chyflawni. Cawsant gymorth gan Cyllid Cymru, yr Awdurdod Lleol, Banciau ac wrth gwrs yr Hwb Menter @ M-SParc er mwyn datblygu'r cwmni, ac maen nhw’n dweud mai ffocws a phenderfyniad yw'r pethau allweddol sydd wedi’u helpu i gyrraedd y fan lle maen nhw heddiw.

  • Mae Pharmavet yn canolbwyntio ar gynhyrchion gofal iechyd anifeiliaid yn gwerthu i filfeddygion, siopau ac ar y we .
  • Mae Celtic Herbal yn darparu cynnyrch gofal iechyd pur a naturiol ar gyfer, corff a chartref
  • Mae Pharmapack yn gweithio gydag ystod eang o ddiwydiannau gan gynnwys cwmnïau maeth, fferyllol, cosmetig a bwyd i ddarparu gwasanaeth storio a chyflawni .

Er mwyn sefydlu a thyfu'r cwmni, cafodd Rhys gefnogaeth gan amrywiaeth o asiantaethau cymorth, gan gynnwys Cyllid Cymru, Awdurdod Lleol, Banciau, a'r Hwb Menter @ M-SParc. Mae hyn yn pwysleisio pwysigrwydd gofyn am gefnogaeth, a pheidio â bod ofn ceisio cymorth i sefydlu eich busnes.

“Pe gallwn gynnig unrhyw gyngor, cadw ffocws a bod yn benderfynol o ran eich nod fyddai hynny. Byddwn hefyd yn ceisio sicrhau mwy o gyllid pan nad yw'n hanfodol, er mwyn osgoi unrhyw straen ariannol ar adegau allweddol. Mae adeiladu tîm da hefyd yn hanfodol, yn ogystal â cheisio cymorth mentora yn gynnar.”

Cymorth fel yr hyn y gall yr Hwb Menter ei gynnig.

Dywedodd Cydlynydd yr Hwb Sara Roberts “Mae Rhys wedi nodi'r math o gefnogaeth sydd ei angen ar ei gwmni, ac wedi mynd allan i sicrhau'r gefnogaeth honno. Dyna'n union beth mae sefydliadau fel yr Hwb Menter yma ar ei gyfer. Mae tîm PharmaGroup wedi defnyddio'r caffi yn M-SParc ar gyfer rhwydweithio, wedi manteisio i’r eithaf ar ein gweithdai a'n digwyddiadau, a dod yn rhan o'r gymuned. Fel rydyn ni’n ei ddweud bob amser, ni allwch dyfu busnes ar eich pen eich hun, a dro ar ôl tro gwelwn fod y cwmnïau hynny sy'n mynd allan i geisio cymorth ac integreiddio i'r gymuned fusnes, yn gweld hynny'n cael ei wobrwyo o ran llwyddiant.”

Ariennir yn rhannol gan Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Tanysgrifwch i’n cylchlythyr

Cofrestrwch i'n cylchlythyr lle cewch fanylion perthnasol i helpu'ch busnes chi a PDF Awgrymiadau Arfer Da Busnes!