Aelod Hwb: Beth Woodhouse - Marketshed Ltd

Marketshed

4 Tachwedd
2020

Gan ddefnyddio dros ddegawd o brofiad marchnata, aeth Beth Woodhouse ati i lansio Marketshed Ltd yn ystod cyfnod clo Covid19, ac nid yw wedi edrych yn ôl. Mae'r busnes bellach yn brysur drwy'r amser, gyda rhestr o gleientiaid ffyddlon sy'n dibynnu ar Marketshed am bopeth o reoli cyfryngau cymdeithasol, i strategaethau marchnata, a phopeth yn y canol. Mae Beth yn rhannu ei hawgrymiadau gorau, ac yn diolch i'r Hwb Menter am eu cefnogaeth amhrisiadwy.

Mae gan Beth Woodhouse 10 mlynedd o brofiad fel Rheolwr Marchnata, ac mae'n angerddol am helpu busnesau lleol i adeiladu eu brand. Mae'n unigolyn profiadol ac ymroddedig, ac mae wedi llwyddo i gynllunio, gweithredu a rheoli ymgyrchoedd brand a marchnata mewn amgylcheddau masnachol sydd angen canlyniadau a thwf. Nawr, mae ffocws Beth yn troi at wireddu ei breuddwyd ei hun, adeiladu brand a busnes i helpu eraill i ffynnu!

Mae Marketshed yn darparu strategaeth a rheolaeth farchnata brand personol i eraill, gan ddod ag eglurder a'r opsiwn i roi'r holl weithgarwch marchnata ar gontract allanol, er mwyn sicrhau effaith a chysondeb. Wedi'i leoli yn Hen Golwyn, gall Marketshed helpu cwmni newydd ar-lein, neu gwmni sefydledig sy'n barod i gymryd eu cam nesaf, drwy ddarparu offer, syniadau a hyder i droi ymwelwyr yn gwsmeriaid ffyddlon sy'n dychwelyd!

Roedd y syniad yn rhywbeth yr oedd Beth bob amser am ei wneud, ac yn ystod y cyfnod clo ystyriodd ei hopsiynau. “Cefais gefnogaeth fawr gan fy Ymgynghorydd Busnes yn yr Hwb Menter, Gwenfron Roberts. Roedd ei chyngor, ei chefnogaeth a'i hanogaeth yn amhrisiadwy er mwyn cyrraedd lle'r wyf i heddiw.” Ers lansio, mae Beth eisoes wedi helpu i sefydlu busnes newydd ar gyfer cleient; creu gwefan, trefnu ail-frandio, creu strategaeth cyfryngau cymdeithasol, ysgrifennu copi ar gyfer yr holl gynnwys, a rheoli a golygu cyfres podlediadau, yn ogystal ag ysgrifennu dwy strategaeth farchnata brand bersonol! Mae hyn yn ychwanegol at helpu cleientiaid eraill i greu popeth o strategaethau marchnata brand, i gynnwys Instagram. Mae'r busnes wedi dechrau ar y droed iawn yn sicr!

Dywedodd Beth “Efallai ei bod wedi bod yn ddadleuol lansio Marketshed yn ystod cyfnod clo, ond roeddwn i'n teimlo ei fod yn iawn, a'r amser iawn i gynnig fy nghefnogaeth i fusnesau oedd angen cyfeiriad ac eglurder yn yr hinsawdd ansicr hon.” Daeth adegau balch Beth pan lansiodd, ac eto pan ddechreuodd cleientiaid gael yr hyder i ymuno a gweithio gyda Marketshed yn rheolaidd. “Wrth i mi ysgrifennu hyn heddiw, gyda rhestr o bethau i'w gwneud cyn hired â'm braich, fyddwn i ddim yn newid unrhyw beth. Rwy'n hynod ddiolchgar o fod mor brysur yn y cyfnod ansicr hwn.”

Mae arlwy Marketshed yn gwbl ddwyieithog, rhywbeth a oedd yn bwysig i Beth, ac mae hyn wedi helpu i ennyn ymddiriedaeth a hyder llawer o gleientiaid Cymraeg. Mae’n credu ei fod yn rhan hanfodol o'r gwasanaeth yn yr ardal o Gymru rydym yn byw ynddi. Ei chyngor i eraill yw credu ynoch chi eich hun (os na fyddwch chi, ni fydd unrhyw un!), manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd rhwydweithio fel y Clwb Cychwyn ar-lein, sy’n fenter ar y cyd rhwng yr Hwb Menter a Siambr Fasnach Gogledd Cymru a Gorllewin Sir Gaer, ac yn olaf bod yn ddynol! Beth bynnag fo'r cynnyrch neu'r gwasanaeth, adeiladu perthynas go iawn gyda'ch cleientiaid.

Mae Beth hefyd yn cynghori eraill i ofalu am eu hiechyd meddwl – gofalwch amdanoch chi eich hun fel y gallwch roi’r gorau ohonoch chi eich hun i'ch busnes. Cytunodd Sara, cydlynydd yr Hwb Menter, “Rydym yn bendant yn credu bod iechyd meddwl a lles yn bwysig i unrhyw fusnes, a dyna pam mae aelodau'r Hwb Menter yn cael mynediad ecsgliwsif at amrywiaeth o gynigion cymorth lles pan fyddant yn ymuno, gan gynnwys ap lles meddyliol Thrive ac adnoddau ar-lein fel ioga a fideos maeth.”

Mae’r Hwb Menter yn brosiect a ariennir yn rhannol gan Y Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

https://www.marketshed.co.uk/

Tanysgrifwch i’n cylchlythyr

Cofrestrwch i'n cylchlythyr lle cewch fanylion perthnasol i helpu'ch busnes chi a PDF Awgrymiadau Arfer Da Busnes!