Aelod Hwb: Heledd Owen - Darlunio Heledd Owen Illustration

Heledd Owen

4 Tachwedd
2020

Dechreuodd Heledd Owen raglen sbarduno cychwyn busnes Miwtini Hwb Menter a dechrau ei busnes darlunio ychydig cyn cyfnod clo Covid19. Drwy gymryd rhan, ymgysylltu'n weithredol â'r gweithdai, a gweithio'n galed ar fusnes y mae'n credu ynddo, llwyddodd Heledd i lansio ei busnes. Yn ystod y cyfnod clo, yn anffodus fe wnaeth golli ei swydd rhan-amser, ond diolch i'w hymroddiad a'r gefnogaeth gan yr Hwb Menter a'r gymuned leol, llwyddodd i ganolbwyntio ar Heledd Owen Illustration, a dod yn hunangyflogedig yn llawn amser! Mae ei busnes wedi tyfu o nerth i nerth yn ystod y clo.

Mae Heledd Owen Illustration yn darparu gwasanaeth i greu comisiynau unigryw ac argraffiadau wedi'u cynllunio ar bosteri, llyfrau nodiadau a chrysau-t. Roedd y syniad wedi bod ar feddwl Heledd ers peth amser, ac yn y pen draw penderfynodd mai digon oedd ddigon, roedd yn bryd dechrau. Un o'r eitemau cyntaf a gynlluniwyd ganddi oedd calendr ym mis Tachwedd 2019 a gafodd adborth gwych ac a roddodd yr hyder iddi fynd amdani. Pan sylwodd ar hysbyseb yr Hwb Menter ar gyfer carfan nesaf Miwtini, cofrestrodd Heledd, a rhwng Miwtini a’r digwyddiadau ‘troi hobi yn fusnes’ llwyddodd i ddysgu digon i weithio iddi hi ei hun yn llawn amser.

Ym mis Mehefin, daeth gwaith rhan-amser Heledd i ben oherwydd Covid-19, a helpodd hynny hefyd i’w gwthio i fynd yn hunangyflogedig yn llawn amser. Mae hi bellach yn dweud ei fod yn un o'r pethau gorau a allai fod wedi digwydd. Gan fod ei siop ar-lein, mae hi wedi gallu parhau â'i gwerthiant yn ystod y cyfnod clo. Dros yr ychydig fisoedd diwethaf, mae'r cynnydd yn y galw wedi caniatáu i Heledd gyflogi rhywun un diwrnod yr wythnos i helpu gyda'r busnes.

Dywedodd Heledd “Fy eiliad fwyaf balch oedd pan lansiais galendr 2021 yr wythnos diwethaf; dydw i erioed wedi gwerthu cymaint o eitemau mewn wythnos â’r adeg honno, a dangosodd i mi'r cynnydd anhygoel mewn gwerthiant rwyf wedi'i gael ers dylunio fy nghalendr cyntaf flwyddyn yn ôl.”

Mae Heledd yn cynghori busnesau eraill y gallant ddewis y gwaith maen nhw’n ei wneud – arferai dderbyn unrhyw gomisiynau, ond mae bellach yn penderfynu pa rai fyddai orau i'w brand a'i chwmni. Mae hefyd yn nodi ei bod yn defnyddio'r Gymraeg bob dydd yn y busnes, ac nad oes ganddi unrhyw amheuaeth y dylid rhoi credyd i hyn am fynd â'r busnes i'r lle y mae ar hyn o bryd. Mae pobl, yn enwedig yn ystod y cyfnod hwn, am gefnogi busnesau bach lleol.

Mae Heledd hefyd yn annog eraill i gael cymaint o adborth a chymorth â phosibl, oherwydd mae'n amhosibl gwneud popeth eich hun. “Fyddwn i ddim lle ydw i heddiw heb yr Hwb Menter, a'r gweithdai ar-lein roedden nhw'n eu darparu! Rwy’n teimlo’n rhan o gymuned nawr, yn hytrach na dim ond fi'n eistedd gartref yn ceisio cynnig yr holl atebion. Mae'r Hwb Menter wedi gwneud i mi deimlo bod gen i rywle i ddod am gyngor ond hefyd i gael hwyl tra dwi'n ei wneud!” Fel llawer o gleientiaid eraill yr Hwb, mae Heledd hefyd yn nodi pwysigrwydd iechyd meddwl. “Mae digon o amser i gymryd penwythnos i ffwrdd – bydd pethau'n aros tan ddydd Llun, a bydd eich corff yn diolch i chi am hynny.”

Mae’r Hwb Menter yn brosiect a ariennir yn rhannol gan Y Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

https://heleddowen.co.uk/

Tanysgrifwch i’n cylchlythyr

Cofrestrwch i'n cylchlythyr lle cewch fanylion perthnasol i helpu'ch busnes chi a PDF Awgrymiadau Arfer Da Busnes!