Aelod Hwb - Resolution Drones

Cara Huey Resolution Drones 1

23 Ebrill
2025

Y busnes drôn sy’n helpu cymunedau'r gogledd-orllewin

Mae dynes o Fôn wedi trawsnewid ei bywyd wrth sefydlu busnes drôn i helpu trigolion yr ynys a thu hwnt.  Bu Cara Huey yn derbyn budd-daliadau am “gryn dipyn” ac yn chwarae gyda gwahanol syniadau busnes cyn iddi lwyddo i sefydlu’r busnes, Resolution Drones.  Dyma uned dronau sy'n ymateb ar unwaith i ddigwyddiadau yn y gogledd-orllewin, boed yn droseddau, chwilio am bobl sydd ar goll, neu asesu difrod stormydd a'r argyfwng hinsawdd.  Ar ôl derbyn cyngor gan ei mentor o'r adran Ceisio Gwaith, aeth ati i chwilio am gymorth i sefydlu, meddai.

 

“Mentor o'r adran Ceisio Gwaith dywedodd: ‘Mae yna bobl allan yna all eich helpu, fel Busnes Cymru, Môn CF a’r Hwb Menter’,” meddai Cara.  “A dyna sut y daethom ni i gysylltiad. Mae’r grant wedi fy helpu i brynu’r drôn delweddu thermol sydd wedi rhoi hwb i’r busnes. Byddwn i flynyddoedd ar ei hôl hi pe na bai hwn gen i."  Mae wedi bod yn mynd yn dda mewn gwirionedd. Aled Owen oedd fy mentor ac roedd yn gefnogol iawn pan oeddwn i’n cael y ceisiadau i gyd yn barod a rhoi trefn ar bopeth – roedd yn ffantastig. Mae gennych chi rywun lleol sy’n gallu eich helpu chi ac sydd gerllaw.”

 

Erbyn hyn, mae Cara wedi buddsoddi mewn llond llaw o dronau gwahanol fydd o fudd i’r gymuned a’i busnes.  “Pan mae rhywbeth yn digwydd yn ardal y gogledd-orllewin, byddaf yn dod allan gyda’r drôn ar gyfer beth bynnag sydd ei angen,” meddai.  “Mae gan un drôn uchelseinydd, ar gyfer sefyllfa chwilio ac achub neu unrhyw fath o aflonyddwch cyhoeddus. Mae gen i ddronau llai i asesu difrod ar adeiladau ar ôl stormydd ac ati."  Mae gen i ddrôn maint canolig i gasglu tystiolaeth ar gyfer delweddau ansawdd uchel a phethau i helpu asiantaethau a rheoleiddwyr yn eu gwaith, fel y gallant gael eu defnyddio yn y gogledd-orllewin i geisio mynd i’r afael â throseddau ac achosion newid hinsawdd." 

 

Gwyliwch y fideo isod am fwy o hanes Cara.

Tanysgrifwch i’n cylchlythyr

Cofrestrwch i'n cylchlythyr lle cewch fanylion perthnasol i helpu'ch busnes chi a PDF Awgrymiadau Arfer Da Busnes!