Aelod Hwb - Arfon Timber Frames

Arfon Timber Frames 2

23 Ebrill
2025

Busnes adeiladu o Gaernarfon yn ffynnu  

Mae busnes adeiladu o Gaernarfon yn falch o weld bod gan bobol awydd i weithio yn y sector.  Sefydlwyd Arfon Timber Frames, sy’n creu adeiladau ffrâm bren 'perfformiad uchel' o goed lleol yn bennaf, gan Mark Chapman y llynedd.  Gyda chefnogaeth gan Hwb Menter, Busnes Cymru a Chyngor Gwynedd, mae'r flwyddyn gyntaf o fasnachu yn edrych yn llewyrchus iawn.

 

“Rydyn ni wedi bod yn masnachu ers mis Tachwedd y llynedd,” meddai Mark Chapman, Prif Saer Coed a Rheolwr Gyfarwyddwr Arfon Timber Frames.  “Mae’r busnes wedi tyfu’n sylweddol ac rydyn ni wedi cael llawer o ymholiadau eleni oherwydd yr hysbysebu rydyn ni’n ei wneud ynglŷn â’r math hwn o waith.  Mae saith o bobl yn gweithio i ni, ac mae chwech ohonyn nhw’n ymwneud â’r ochr gweithgynhyrchu ac adeiladu, gyda pherson arall yn rheoli’r rhaglen yn y swyddfa.  Mae dros 50% o’n tîm yn ferched, gan gynnwys Jess sydd yn y swyddfa.  Mae’n wych gweld pobol yn dymuno cymryd rhan yn y sector adeiladu.” 

 

Cefnogaeth Hwb Menter yn hollbwysig 

 Diolch i grant cychwynnol o £2,500 gan Hwb Menter, fe wnaeth y cwmni allu ennill achrediadau gan y diwydiant ac ymuno â chyrff masnach proffesiynol.  Mae hyn oll wedi bod o gymorth i’r busnes yn ei flwyddyn gyntaf, meddai Mark Chapman. 

 

“Cawsom gyllid cychwynnol gan yr Hwb Menter, a wnaeth ein galluogi i gael aelodaeth broffesiynol bwysig.  Rydyn ni wedi ymuno â chyrff fel y Structural Timber Association, The Alliance for Sustainable Building Products a’r Passive House Trust.  Felly cyrff sy’n cynrychioli be rydan ni’n ei wneud ac yn rhoi llais da i ni, yn enwedig y Structural Timber Association, sy’n achredu ein gwaith gan sicrhau ein bod yn gwneud gwaith o safon uchel yn y diwydiant.  Mae eu cefnogaeth wedi ein galluogi i sicrhau safonau megis ISO 9001, a’r STA Assure Gold, sef safon uchaf y diwydiant ar gyfer ffrâm bren strwythurol.  Ni fyddem wedi gallu mynd am y mathau hyn o achrediadau yn ein blwyddyn gyntaf o fasnachu heb gefnogaeth Hwb Menter, Busnes Cymru a Chyngor Gwynedd.” 

 

Gwyliwch y fideo isod am fwy o hanes Mark.

Tanysgrifwch i’n cylchlythyr

Cofrestrwch i'n cylchlythyr lle cewch fanylion perthnasol i helpu'ch busnes chi a PDF Awgrymiadau Arfer Da Busnes!