Aelod Hwb - Anglesey Pilates Studio

9 Ebrill
2025
O ffioedd i ffitrwydd – Holly yn buddsoddi yn ei breuddwyd
Pan ddaeth y cyfle i Holly agor ei stiwdio pilates ei hun, doedd hi ddim yn teimlo’n hollol barod, ond roedd yn gwybod na allai adael i’r cyfle fynd heibio. “Roeddwn i wir yn angerddol am fy nysgu ac roeddwn i’n gwybod mai dyna oeddwn i eisiau ei wneud,” meddai Holly. “Felly pan ddaeth y cyfle i fyny, er nad oeddwn yn barod amdano a dweud y gwir, roedd yn rhaid i mi fynd amdani.”
O freuddwyd i realiti
Roedd sefydlu Anglesey Pilates Studio yn her fawr, a cafodd Holly gymorth i wybod ble oedd dechrau diolch i Aled Owen, Ymgynghorydd Busnes Menter Môn. Roedd angen buddsoddi cryn dipyn o arian i ddechrau’r busnes, ond diolch i grant gan yr hwb Menter roedd Holly yn gallu sicrhau bod popeth yn ei le.
“Roedd cryn dipyn o wariant, yn enwedig yn y tri mis cyntaf o ymgymryd â stiwdio pilates," meddai. "Roedd angen prynu’r holl offer a’r dodrefn ar gyfer stiwdio ei hun, cael cymorth gyda’r ffïoedd cyfreithiol a'r cyfrifydd. Roedd y cymorth yma'n hanfodol oherwydd roedd yn golygu bod yr arian oedd gen i yn gallu cael ei roi i mewn i brynu’r offer a’r dodrefn a’r holl gostau eraill o gymryd y busnes ymlaen.”
Stiwdio i bawb
Mae'r stiwdio'n cynnig amserlen amrywiol o ddosbarthiadau pilates sy'n dilyn dull unigryw MELT, ond mae Holly eisiau gwneud yn siŵr bod y gofod yn hygyrch i bawb ac yn cyd-fynd ag amserlen brysur pobol.
“Dwi’n edrych ymlaen yn fawr at gynnal gweithdai rheolaidd yn fisol fel bod pobol yn gallu profi beth rydym ei wneud heb orfod ymrwymo i ddosbarth wythnosol. Mae’r stiwdio hefyd am ddim i hyfforddwyr llawrydd eraill logi’r gofod. Felly mae gennym ni ddosbarthiadau ioga rheolaidd yma.”
Mae hefyd eisiau ehangu’r hyn mae’r stiwdio’n ei gynnig trwy ddarparu dosbarthiadau trwy’r Gymraeg.
Taith heriol ond gwerth pob eiliad
Er ei bod wedi bod yn daith heriol, mae Holly yn falch ei bod wedi mentro.
“Yn sicr mae wedi bod yn heriol. Ond rydw i wedi caru pob munud ohono. Ac er ei fod wedi bod yn flinedig, rwy’n dod i mewn i drefn nawr ac yn setlo i mewn o ddifri.”
Gwyliwch y fideo isod am fwy o hanes Holly.
Tanysgrifwch i’n cylchlythyr
Cofrestrwch i'n cylchlythyr lle cewch fanylion perthnasol i helpu'ch busnes chi a PDF Awgrymiadau Arfer Da Busnes!


