Dathlu llwyddiant prosiectau busnes a chadwraethol

2 Rhagfyr
2021

Ar y 4ydd o Dachwedd, fe blannwyd coeden a chapsiwl amser ar dir M-SParc i nodi canmlwyddiant Siambr Fasnach Gogledd Cymru a Gorllewin Swydd Gaer.

Dyma bwysleisio perthynas y Siambr gyda Menter Môn ac M-SParc. Mae’r berthynas yma yn un gref gyda’r Siambr yn rhedeg Clwb Cychwyn Busnes Gogledd Cymru yn fisol o’r Hwb Menter.

Mae’r clwb yn cynnig cymorth i fusnesau sydd wedi eu lleoli yng Ngogledd Cymru o fewn dwy flynedd i ddechrau eu busnes, neu gymorth i’r rhai sydd ar fin cychwyn busnes.

Nododd Bethan Fraser-Williams, sydd yn gweithio fel Cyfarwyddwr Cynlluniau gyda Menter Môn: “Rydym ni wrth ein bodd ein bod ni wedi cael ein dewis fel lleoliad ar gyfer plannu coeden a chapsiwl amser y Siambr!

Nid yn unig ei fod o’n cefnogi ein hymdrechion ni i helpu’r amgylchedd ond mae hefyd yn cynrychioli’r gefnogaeth sy’n cael ei gynnig gennym ni i fusnesau yng ngogledd Cymru i dyfu a ffynnu. Rydym ni’n edrych ymlaen yn fawr at weld y goeden a busnesau lleol yn tyfu dros y blynyddoedd.”

Roedd y digwyddiad hefyd yn ffordd o nodi hanes maith gwaith amgylcheddol a chadwraethol Menter Môn ar yr ynys.

Wedi ei darparu gan feithrinfa coed bychain prosiect Adeiladu Naturiol Cae Mabon, plannwyd coeden collen i ddathlu’r cysylltiad rhwng cymuned, tarddiad lleol, coed brodorol a bioamrywiaeth.

Nododd Luke Tyler, Rheolwr Agri-Tech Menter Môn: “Mae coed cyll yn cynhyrchu cnau cyll, sydd ymhlith hoff fwyd poblogaeth gwiwerod coch enwog Ynys Môn. Mae’r wiwerod yma wedi eu gwarchod rhag diflannu trwy waith cadwraeth pwrpasol sydd wedi ei arwain gan Menter Môn a phartneriaid eraill.

Mae gwiwerod llwyd anfrodorol yn cario firws a all fod yn angheuol i’r gwiwerod coch, ac mae gan y wiwer lwyd amryw o nodweddion ymddygiadol dinistriol iawn yng nghoetiroedd y DU. Mae hyn yn golygu bod coedwigoedd brodorol a hynafol sy’n lleihau’n gyflym wedi colli’r gallu i adfywio. Ynys Môn yw un o’r unig gadarnleoedd ar gyfer y wiwer goch yn y DU, tu draw i’r Alban ac mae llawer o hyn o ganlyniad i waith cadwraethol Menter Môn.”

Y gobaith ydi y bydd y berthynas yma rhwng yr Hwb Menter a phrosiectau cadwraethol yn arwain at wneud busnesau newydd yn fwy ymwybodol o’u cyfraniad at wrthbwyso carbon wrth iddyn nhw ddatblygu.

Ychwanegodd, Debbie Bryche, Prif Weithredwr Siambr Fasnach Gogledd Cymru a Gorllewin Swydd Gaer: “Diolch o galon i Menter Môn ac M-SParc am gynnig y safle yng Ngogledd Cymru i dderbyn ein coeden canmlwyddiant a’r capsiwl amser. Rydym yn gobeithio, mewn blynyddoedd i ddod y bydd aelodau’r Siambr yn y dyfodol yn gallu dod ynghyd yn yr un safle i gael cipolwg o’r hanes a fu.”

Tanysgrifwch i’n cylchlythyr

Cofrestrwch i'n cylchlythyr lle cewch fanylion perthnasol i helpu'ch busnes chi a PDF Awgrymiadau Arfer Da Busnes!