Aelod Hwb: Jinsan

20 Hydref
2021

Hen drelar ceffylau wedi ei drawsnewid yn Far Jin symudol yw Jinsan! Dechreuodd Alaw Williams y fenter trwy fynychu digwyddiadau, partïon a dathliadau, gyda’r bwriad o gefnogi busnesau bach eraill trwy werthu eu cynnyrch jin! Dechreuodd y busnes, fel aml i fusnes arall, yn ystod y cyfnod clo - pan sylweddolodd Alaw ei bod yn barod i fentro gwneud rhywbeth ar ei liwt ei hun!

Beth oedd y sbardun i gychwyn y busnes Alaw?

Yn ystod y cyfnod clo, ro’n i adre yn magu dau o blant ifanc. Fel llawer o bobl, ro’n i’n cael rhyw jinsan bach yn yr haul... ac allan o hynny mi gychwynnodd Jinsan! Yn ogystal â gweithio i fi fy hun, roeddwn i’n awyddus i gefnogi busnesau eraill trwy werthu jîns a chwrw lleol o’r stondin.

Sut wnaethoch chi gychwyn? Aethoch chi at rywun i chwilio am gefnogaeth?

Ar y dechrau, roedd Llwyddo’n Lleol/Hwb Menter Miwtini wedi chwarae rhan bwysig wrth sefydlu’r busnes, o edrych ar gynllunio’r busnes, i’w farchnata a’i gyllido. Roedd y gymuned a sefydlwyd gennym oll ar y rhaglen yn cynnig cefnogaeth ardderchog i’n gilydd. Ar lefel bersonol hefyd, cefais gefnogaeth gan fy mhartner a chan fy nhad - nhw ddangosodd i mi sut i adeiladu’r trelar fy hun a’i drawsnewid yn drelar delfrydol.

Beth sydd wedi rhoi’r balchder mwyaf i chi hyd yma, a beth fyddech chi yn ei wneud yn wahanol y tro nesaf efallai?

Roedd yn anodd dechrau go iawn tan yn ddiweddar oherwydd y cyfyngiadau clo, felly roedd cael presenoldeb trawiadol ar y gwefannau cymdeithasol yn hanfodol i mi ddechrau’r busnes. Roeddwn wedi gwirioni ar yr ymateb a’r negeseuon gefais yn syth ar ôl cychwyn derbyn gwahoddiadau. Rhoddodd hyn lawer o hyder i mi gan gadarnhau fod yr holl waith caled roeddwn wedi ei wneud yn talu ar ei ganfed.

Mae’r Gymraeg yn bwysig iawn i gwmni Jinsan ac mae’n sicr yn chwarae rhan fawr yn fy musnes - mae Cymry Cymraeg yn hapus iawn o glywed y Gymraeg yn cael ei siarad, ac rwy’n teimlo fy mod yn cael y gefnogaeth ychwanegol hynny oherwydd bod pobl eisiau cefnogi busnes lleol.

Rydw i wedi dysgu llawer dros y flwyddyn ddiwethaf ac yn hynod o hapus efo’r hyn dwi wedi ei wneud, ond efallai y tro nesaf bydden i’n prynu trelar ychydig yn fwy newydd i’w addasu! Efallai y byddai hynny wedi costio ychydig mwy i mi, ond byddwn wedi arbed llawer iawn o amser yn ei drwsio.

Lle ydych chi’n gweld Jinsan yn y dyfodol?

Y gobaith yw y byddaf yn dal i fynd i ddigwyddiadau, ond hoffwn hefyd agor bar bach fyddai’n medru croesawu pobl i mewn, a rhoi cyfle iddyn nhw flasu jins o bob blas dan haul! Ar y funud, rwy’n colli cyfarfod â phobl oherwydd nad oes ganddyn nhw y gofod i fedru hurio’r trelar.

I orffen, beth fyddai eich cyngor i rywun arall?

Bydden ni’n annog pobl i gymryd mantais ar yr holl gymorth sydd ar gael, gwneud gwaith ymchwil trylwyr; sicrhau bod cwsmeriaid eisiau prynu'r hyn rydych yn ei werthu. Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn hanfodol bwysig, ac mae angen cynnal eich presenoldeb arno yn barhaus.

Iechyd da Alaw, ac edrychwn ymlaen at weld eich busnes yn tyfu!

Tanysgrifwch i’n cylchlythyr

Cofrestrwch i'n cylchlythyr lle cewch fanylion perthnasol i helpu'ch busnes chi a PDF Awgrymiadau Arfer Da Busnes!