Aelod Hwb: Gaea Land Services

20 Hydref
2021

Mae Gaea Land Service yn fusnes teuluol yn y Rhyl, sy’n darparu gwasanaethau tir a gardd, yn deillio o’u hangerdd am yr amgylchfyd a’r awyr agored. Mae’r busnes a redir gan Stephen Hughes ac Emma Harding, yn cynnig gwasanaethau torri coed, garddio, tirlunio a pharatoi sylfeini. Rhan allweddol o ethos y cwmni yw cynaliadwyedd, ac mae Stephen ac Emma yn gweithio’n galed i wella ac adfer yr ecoleg leol. Mae gerddi a thir yn ddarn bach o baradwys i’w perchnogion, a dyna’r hyn maent yn gweithio’n galed i’w ddarparu!

Dywedwch wrthym sut wnaethoch gychwyn y busnes?

Roeddem wedi bod yn chwarae gyda’r syniad o gychwyn busnes garddio ers blynyddoedd lawer. Roedd yn rhywbeth roedd y ddau ohonom eisiau ei wneud. Felly dyma gychwyn gydag enw! Sefydlwyd Gaea Land Services yn ystod y cyfnod clo, ac o hynny aethom i chwilio am gefnogaeth busnes. Daethom o hyd i’r Hwb Menter ar-lein, ac rydym mor ddiolchgar o’i ddarganfod! Doedden ni bellach ddim yn teimlo ein bod ar ein pennau ein hunain, ac roedd modd i ni osod y sylfeini priodol ar gyfer ein busnes newydd.

Rydym ni hefyd yn falch eich bod wedi troi aton ni! Allwch chi ddweud ychydig mwy am uchafbwyntiau ac isafbwyntiau o gychwyn busnes newydd?

Hyd yma, yr hyn rydyn ni’n fwyaf balch ohono yw pa mor brysur rydyn ni wedi bod o’r diwrnod cyntaf! Ers i ni gychwyn arni, prin mae ein traed wedi cyffwrdd y ddaear, a fydden ni fyth wedi breuddwydio y byddai ein haf cyntaf mor llwyddiannus! Rydyn wedi cael cwsmeriaid anhygoel, ac wedi cael cyfle i weithio mewn gerddi godidog.

Ond mae pob diwrnod fel diwrnod ysgol, ac rydyn ni’n dal i wneud camgymeriadau. Yr hyn sy’n bwysig yw ein bod yn dysgu o’n camgymeriadau, a’n bod yn parhau’n hyderus yn ein gwaith. Gyda chymorth yr Hwb, rydym hefyd wedi dod yn fwy hyderus yn ochr fusnes y gwaith hefyd!

Rydym eisiau parhau i ddysgu ac adeiladu ar ein henw da yn y gymuned leol yn ystod y misoedd nesaf.

Swnio’n dda. O’r hyn rydych wedi ei ddysgu, pa gyngor fyddech chi’n ei roi i un unrhyw un sy’n dymuno cychwyn busnes?

Gofynnwch am help bob amser! Dwi’n gwybod fod pawb yn dweud hynny, ond mae’n hanfodol cael y cymorth a’r cyngor busnes ar hyd y ffordd. Mae’n bwysig hefyd mwynhau'r hyn rydych yn ei wneud; mae eich cwsmeriaid yn gallu gweld os ydych yn angerddol am yr hyn rydych yn ei wneud. Hefyd - gwybod pwy ydych chi. Dylech gynnwys hyn yn eich brand a’ch deunydd marchnata, a byddwch yn gyson.

Wel, gyda chyngor fel yna, mae’r seiliau’n gadarn ar gyfer unrhyw fusnes! Yn olaf, allwch chi ddweud mwy wrthon ni sut y cefnogwyd eich busnes gan yr Hwb Menter?

Mewn cymaint o ffyrdd! Mi wnaethon ni ail-gynllunio ein logo a lliw ein brand o’r digwyddiadau marchnata ac roedd y gweminarau zoom yn ystod y cyfnod clo yn werthfawr tu hwnt. Roedd cymuned yr Hwb hefyd yn cynnig cysur a chefnogaeth - does dim y fath beth â chwestiwn gwirion, ac ar adegau roeddem yn clywed atebion i gwestiynau nad oeddem wedi ystyried eu gofyn ychwaith. Yn bendant, mae’r holl brofiad wedi cyfrannu tuag at ein llwyddiant a’n hyder eleni.

Diolch yn fawr a phob llwyddiant wrth i’ch busnes flaguro.

Ariennir yn rhannol gan Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Tanysgrifwch i’n cylchlythyr

Cofrestrwch i'n cylchlythyr lle cewch fanylion perthnasol i helpu'ch busnes chi a PDF Awgrymiadau Arfer Da Busnes!