2ail Ddosbarth Meistr Trefi SMART

Smart t 2

21 Ionawr
2021

Trefi SMART-Dysgu o ddata synhwyraidd

Cefndir

Roedd y digwyddiad rhagarweiniol yn edrych ar pe gallem fonitro iechyd Stryd Fawr yn yr un modd ag yr ydym yn monitro iechyd ein hunain. Yn hytrach na chyfrif ôl troed, a allwn ni gyfrif nifer yr ymwelwyr? Yn hytrach na mesur budd ymarfer corff, a allwn fesur budd parcio am ddim a lleoedd i gerddwyr? Yn hytrach nag olrhain ein ffitrwydd dros y flwyddyn, a allwn olrhain nifer yr ymwelwyr?

Mae'r dechnoleg yn bodoli ac eisoes yn cael ei defnyddio yn nhrefi Cymru i wneud penderfyniadau gwybodus a chynllunio ar gyfer y dyfodol. O ystyried y pwysau ar y Stryd Fawr ac effaith COVID19 mae'n bwysig bod busnesau'n gallu manteisio ar dechnoleg ddigidol, yn yr un ffordd ag y maen nhw wedi bod yn ei wneud mewn canolfannau siopa ac archfarchnadoedd ers blynyddoedd.

Ceir y Dosbarthiadau Meistr yma eu cynnal gan Menter Môn drwy yr Hwb Menter a'u cefnogi gan Lywodraeth Cymru, fel rhan o'i hagenda adfywio canol tref 'Trawsnewid Trefi'.

Gall y digwyddiad rhagarweiniol gael ei wylio yn ol yma.

2il Dosbarth Meistr - Dysgu o ddata synhwyraidd

Roedd y dosbarth meistr hwn yn canolbwyntio ar sut y gall data cymdeithasol-ofodol gynorthwyo dealltwriaeth a gwneud penderfyniadau mewn trefi.

Mi ddaru ni edrych ar gyfieithu'r corfforol i ddigidol - cyffredinoli ymddygiad o briodoleddau'r gofod corfforol fel y rhwydwaith strydoedd a sut mae'r ymddygiad hwnnw'n newid o fewn yr un gofod oherwydd amodau deinamig ac amrywiadau yn eu cyd-destun. Mi ddaru ni hefyd edrych ar bersbectif digidol i gorfforol ar y berthynas rhwng nifer y bobl sy'n aros ar y stryd fawr a chyfryngau cymdeithasol.

Roedd ein siaradwyr yn cynnwys Dr Sharon Richardson - darlithydd mewn 'Geocomputation' o Brifysgol Zurich, Ed Parham - Cyfarwyddwr Space Syntax, cwmni pensaernïaeth a chynllunio trefol ac Polly Barnfield Sylfaenydd a CEO Maybe* sydd yn helpu gwneud i gyfryngau cymdeithasol weithio i fusnesau.

Medrwch gofrestru i'r digwyddiad SMART nesaf yma, a gweld y cyfres cyfan o'n gweminarau yma!

Tanysgrifwch i’n cylchlythyr

Cofrestrwch i'n cylchlythyr lle cewch fanylion perthnasol i helpu'ch busnes chi a PDF Awgrymiadau Arfer Da Busnes!