Dosbarth Meistr 1af Trefi SMART

SSMART1

20 Ionawr
2021

Trefi SMART - Pam creu tref SMART?

Roedd y digwyddiad rhagarweiniol yn edrych ar pe gallem fonitro iechyd Stryd Fawr yn yr un modd ag yr ydym yn monitro iechyd ein hunain. Yn hytrach na chyfrif ôl troed, a allwn ni gyfrif nifer yr ymwelwyr? Yn hytrach na mesur budd ymarfer corff, a allwn fesur budd parcio am ddim a lleoedd i gerddwyr? Yn hytrach nag olrhain ein ffitrwydd dros y flwyddyn, a allwn olrhain nifer yr ymwelwyr?

Mae'r dechnoleg yn bodoli ac eisoes yn cael ei defnyddio yn nhrefi Cymru i wneud penderfyniadau gwybodus a chynllunio ar gyfer y dyfodol. O ystyried y pwysau ar y Stryd Fawr ac effaith COVID19 mae'n bwysig bod busnesau'n gallu manteisio ar dechnoleg ddigidol, yn yr un ffordd ag y maen nhw wedi bod yn ei wneud mewn canolfannau siopa ac archfarchnadoedd ers blynyddoedd.

Ceir y Dosbarthiadau Meistr yma eu cynnal gan Menter Môn drwy yr Hwb Menter a'u cefnogi gan Lywodraeth Cymru, fel rhan o'i hagenda adfywio canol tref 'Trawsnewid Trefi'.

Gall y digwyddiad rhagarweiniol gael ei wylio yn ol yma.

Dosbarth Meistr 1af - Pam creu Tref SMART?

Roedd y dosbarth meistr yma yn canolbwyntio ar archwilio beth yw tref SMART, yr hyn y gall ein trefi ei ddysgu o’r mudiad ‘dinasoedd SMART’ byd-eang a diffinio pam y byddai trefi Cymru yn elwa o ddata synhwyraidd. Mi ddaru ni adolygu uchafbwyntiau'r digwyddiad rhagarweiniol a clywed safbwyntiau, astudiaethau achos a gwersi a ddysgwyd gan ystod o siaradwyr gan gynnwys Wendy Robertson o Gyngor Dinas Aberdeen, Steve Turner o'r Catapwlt Connected Places, Stephen Meredith o Gyngor Dinas Caerdydd, Clive Davies, Maer Tref Aberteifi a Linda Chandler, Cynghorydd Byd-eang Dinasoedd SMART.

Medrwch gofrestru i'r digwyddiad SMART nesaf yma, a gweld y cyfres cyfan o'n gweminarau yma!

Tanysgrifwch i’n cylchlythyr

Cofrestrwch i'n cylchlythyr lle cewch fanylion perthnasol i helpu'ch busnes chi a PDF Awgrymiadau Arfer Da Busnes!