Denu talent yn ôl adref

Dewch agos A6

18 Ionawr
2021

“Dewch yn ôl // Rhowch yn ôl”– dyma neges ymgyrch newydd sy’n cael ei lansio yr wythnos hon.

Nod ymgyrch M-SParc a Llwyddo'n Lleol, mewn bartneriaeth â Bwrdd Uchelgais Gogledd Cymru, Cyngor Gwynedd, Prifysgol Bangor, Global Welsh, a Darogan Talent yw hyrwyddo’r cyfleodd sydd ar gael yng ngogledd Cymru i bobl sydd wedi symud i ffwrdd ar gyfer eu haddysg neu waith. Bydd yn tynnu sylw at yr hyn sy’n gwneud yr ardal yn lleoliad delfrydol i fyw a gweithio, gyda’r gobaith o annog pobl i ddod yn ôl ac i gyfrannu at yr economi.


Mae Pryderi ap Rhisiart, Rheolwr Gyfarwyddwr M-SParc, yn egluro: “Rydym yn teimlo’n gyffrous iawn wrth lansio’r ymgyrch yr wythnos hon. Mae’n hen stori bod ardaloedd gwledig fel Môn, Gwynedd a Chonwy yn colli poblifanc wrth iddynt symud i ffwrdd ar gyfer addysg uwch a swyddi – gyda’r effaith mae hyn yn ei gael ar gymunedau yn ieithyddol ac yn gymdeithasol yn destun trafodaeth ers sawl cenhedlaeth. Dyma gychwyn y sgwrs felly, ymysg pobl yma yn lleol ac ymysg rhai sydd wedi gorfod gadael, ond sy’n dyheu i ddod 'nôl.

Ein bwriad ydi ceisio newid y gred gyffredin nad oes swyddi a chyfleusterau yma a dangos bod cyfleodd ar gael a hwyluso’r ffordd i bobl ddychwelyd. Gyda’n pobl ifanc yn aros draw mae’n golygu bod gogledd Cymru yn cael ei hamddifadu o dalent a sgiliau a hynny ar adeg pan mae eu gwir angen. Roedden ni’n teimlo felly bod yr amser yn iawn am ymgyrch fel hyn.”

Ail elfen yr cynllun yw ceisio annog pobl sydd wedi bod yn llwyddiannus mewn busnes neu ym myd gwaith y tu hwnt i ffiniau gogledd Cymru i ystyried rhoi yn ôl er mwyn cefnogi busnesau newydd yr ardal. Gyda chyswllt â Chymry ym mhob rhan o’r byd mae partneriaid yr ymgyrch yn gwneud apêl i bobl gofrestru diddordeb i gyfrannu o’u hamser i fentora neu i fuddsoddi yn ariannol i gefnogi mentrau newydd.

Un gŵr busnes sydd eisoes wedi symud yn ôl yw Billy Williams – sylfaenydd cwmni Cufflink, sy’n edrych ar y ffyrdd o storio gwybodaeth bersonol ar-lein. Yn wreiddiol o Amlwch, fe aeth Billy i Ysgol Syr Thomas Jones yn y dref, cyn gadael i fynd i’r brifysgol yn Huddersfield. Mae wedi gweithio ar hyd a lled y byd – o Lundain i’r Swistir, Dubai ac Awstralia. Ond, fel nifer, roedd yn awyddus i symud yn ôl i’w ardal enedigol i fagu teulu.

Dywedodd: “Ar ôl teithio am flynyddoedd, pan ddaeth y plant roeddwn i’n awyddus i ddod yn nes at adref i’w magu nhw, yn agos at fy nheulu ac mewn ardal ddwyieithog. Rwy’n credu nad oes ots bellach lle mae rhywun yn byw pan mae’n dod at waith. Mae gweithio o bell wastad wedi bod yn rhan bwysig i ethos ein cwmni ni ac yn dilyn y cyfnod diweddar efo Covid19, does erioed amser cystal wedi bod i adleoli i ardal mor braf a diogel.”

Dros y misoedd nesaf y gobaith yw y bydd yr ymgyrch yn codi stem ac yn tynnu sylw at y cyfleoedd yn yr ardal drwy ddatblygu cysylltiadau a thrwy dargedau’r cyfryngau – cymdeithasol a thraddodiadol. Y bwriad hefyd yw ymestyn at brifysgolion a’r rhwydweithiau Cymru alltud mewn dinasoedd ar draws y DU a thu hwnt, gan greu cyffro a manteisio ar awydd pobl i symud yn ôl at eu gwreiddiau.

Tanysgrifwch i’n cylchlythyr

Cofrestrwch i'n cylchlythyr lle cewch fanylion perthnasol i helpu'ch busnes chi a PDF Awgrymiadau Arfer Da Busnes!