Gwobrau Hwb Menter 2022

Cafwyd noson anhygoel yn dathlu llwyddiannau aelodau'r Hwb Menter yn ein Gwobrau Hwb Menter 2022!

IMG 1928

Roedd y gwobrau hyn yn agored i aelodau’r Hwb Menter sydd wedi sefydlu neu ddatblygu eu busnes gyda chefnogaeth yr Hwb Menter dros y pedair blynedd diwethaf, a tenantiaid (yn cynnwys rhithiol) M-SParc. Efallai eu bod wedi cael cyfarfod 1i1 gydag un o’n Hymgynghorwyr, gweithio o un o’n lleoliadau, cymryd rhan mewn rhaglen Miwtini, defnyddio Gofod Creu Ffiws neu mynychu un o’n digwyddiadau niferus mewn person neu ar-lein. Os oedden wedi cael cysylltiad â ni, roedden eisiau clywed ganddyn nhw!

Cafodd enillwyr bob categori eu gwahodd i noson ddathlu yn M-SParc ar yr 8fed o Ragfyr 2022. Cyfle gwych i ddathlu eu cyflawniadau a rhwydweithio gyda busnesau eraill.

IMG 1923
IMG 1933

Categorïau

1. GWOBR AELOD GORAU - Martha Loves & Xscape Rooms Bangor

Roedd y wobr hon yn agored i holl aelodau’r Hwb Menter, unrhyw unigolyn / busnes oedd wedi dod i gysylltiad â’r Hwb Menter @M-SParc ac wedi’i gefnogi ganom. Ydych chi'n credu mai chi yw'r busnes gorau yn yr ardal? Beth sy'n eich gwneud chi'n unigryw? Pa lwyddiannau ydych chi wedi'u cael? Pa effaith ydych chi wedi'i chael? Beth yw eich uchelgeisiau ar gyfer y dyfodol? Gwerthwch eich hun!

Martha Loves

Xscape Rooms Bangor

2. GWOBR MIWTINI GORAU - Darlunio Heledd Owen Illustrations

Ydych chi wedi bod yn rhan o un o'n rhaglenni Miwtini? Roedd y wobr hon ar eich cyfer chi. Ydych chi'n credu mai chi yw'r Miwtinieer gorau? Beth sy'n eich gwneud chi a'ch busnes yn unigryw? Pa lwyddiannau ydych chi wedi'u cael? Pa effaith ydych chi wedi'i chael? Beth yw eich uchelgeisiau ar gyfer y dyfodol? Gwerthwch eich hun!

Darlunio Heledd Owen Illustrations

3. GWOBR RHYFELWR ECO - Snowdonia Gear Repair

Pwrpas y wobr hon oedd cydnabod busnesau sydd â chymwysterau gwyrdd. Ydych chi'n ystyried eich busnes yn un foesegol neu'n gymdeithasol gyfrifol? Efallai eich bod chi'n defnyddio deunyddiau wedi'u hailgylchu yn eich cynhyrchion? Efallai eich bod yn rhedeg rhaglenni amgylcheddol? Efallai eich bod yn cefnogi busnesau eraill i anelu at Sero Net? Os ydych chi'n rhyfelwr eco rydym eisiau clywed gennych chi!

Snowdonia Gear Repair

4. GWOBR SEREN GYMUNEDOL - Iogis Bach

Bwriad y wobr hon oedd cydnabod busnesau sydd wedi cael effaith gadarnhaol ar eu cymuned leol. A yw eich busnes yn uchel ei barch yn y gymuned? Ydy pobl leol wrth galon popeth a wnewch? Rydym am dynnu sylw at yr effaith yr ydych yn ei gael ar y rhai o'ch cwmpas.

Iogis Bach

5. GWOBR CHWALWR RHWYSTRAU - Angladdau Enfys Funerals

Mae ymchwil wedi dangos bod yr heriau y mae busnesau wedi’u hwynebu dros y blynyddoedd diwethaf wedi’u teimlo fwyaf gan entrepreneuriaid o grwpiau a dangynrychiolir a grwpiau difreintiedig ym maes entrepreneuriaeth. Grwpiau megis menywod, pobl anabl, pobl ethnigrwydd Du, Asiaidd a Lleiafrifol, pobl ifanc a phobl hŷn, yn ogystal â’r rhai sy’n dechrau busnes o ddiweithdra. Ydych chi'n unigolyn o un o'r grwpiau hyn sydd wedi wynebu heriau yn eich taith cychwyn busnes? Rydyn ni eisiau clywed am eich dyfalbarhad a'ch meddwl penderfynol i oresgyn eich heriau. Fel arall, efallai eich bod yn fusnes sydd wedi cymryd camau i ddileu gwahaniaethu ac annog cynhwysiant. Rydym eisiau clywed sut mae’r camau hyn wedi dangos effaith gadarnhaol.

Angladdau Enfys Funerals

6. GWOBR ARLOESWR ARBENNIG - Haia

Ydych chi'n denant wedi eich lleoli yn M-SParc neu yn rhithiol? Roedd y wobr hon ar eich cyfer chi. Ydych chi'n credu mai chi yw'r tenant fwyaf arloesol yn yr adeilad? Beth sy'n eich gwneud chi a'ch busnes yn arloesol? Pa lwyddiannau ydych chi wedi'u cael? Pa effaith ydych chi wedi'i chael? Beth yw eich uchelgeisiau ar gyfer y dyfodol? Gwerthwch eich hun!

Haia

7. GWOBR GORAU CHWARAE, CYD-CHWARAE - Baileys & Partners

Ydych chi'n denant wedi eich lleoli yn M-SParc neu yn rhithiol? Roedd y wobr hon ar eich cyfer chi. Credwn fod gwaith tîm yn gwneud i'r freuddwyd weithio ac nid oes lle gwell na M-SParc i ddod o hyd i gyfleoedd cydweithio o'r fath! A ydych chi wedi cydweithio â thenant arall ar brosiect penodol? Neu efallai eich bod wedi cydweithio â sefydliadau eraill o fewn y sector preifat neu gyhoeddus? Rhowch wybod i ni!

Baileys & Partners

Gwobrau Hwb Menter 2022 Enterprise Hub Awards 2022
Tanysgrifwch i’n cylchlythyr

Cofrestrwch i'n cylchlythyr lle cewch fanylion perthnasol i helpu'ch busnes chi a PDF Awgrymiadau Arfer Da Busnes!