Aelod Hwb: Glanhau Simdda D.W.T

Simdde

6 Mawrth
2023

Dechreuodd Dion 'Glanhau Simdda D.W.T' — gwasanaeth ysgubo simneiau a chynnal a chadw stofiau, pan sylwodd ar fwlch yn y farchnad. Gyda chefndir coedwigaeth a choed tân, a gwybodaeth helaeth am y dulliau llosgi cywir a gorau, gwyddai mai ef oedd y dyn iawn ar gyfer y swydd, ac felly ganwyd 'Glanhau Simdda D.W.T'.

Dion, mae hwn yn syniad busnes diddorol! Sut aethoch chi ati i ddechrau hyn?

Dechreuais ar y syniad ar ddechrau'r flwyddyn a gwnes ychydig o ymchwil gan wybod mai dyma beth roeddwn i eisiau ei wneud wrth symud ymlaen. Roeddwn i wedi bod yn danfon ac yn cynhyrchu coed tân/boncyffion i oddeutu 1250 o gwsmeriaid ac roeddwn i’n cael y cwestiwn yn aml; “Ydych chi'n adnabod ysgubwr simnai?” Rydym ni wedi bod yn chwilio ac yn methu’n glir “- bwlch clir yn y farchnad meddyliais. Yn y lle cyntaf, fe wnes i ddarganfod Mon CF a'r grant cychwyn busnes oedd ar gael ar y pryd. Yn y noson agored grant, cefais gyfle hefyd i gwrdd â'r Hwb Menter a gynigiodd gymorth i gwblhau'r broses ymgeisio am grant. Mae Cymunedau yn Gyntaf a Hwb Menter Môn wedi bod mor ddefnyddiol wrth fy rhoi ar ben ffordd a’m cefnogi i lunio cynllun busnes.

Dyna beth rydyn ni yma ar ei gyfer! Siaradwch â ni drwy eich taith fusnes. Dim ond am ychydig o amser rydych chi wedi bod yn mynd, ond beth fu'r uchafbwyntiau ac isafbwyntiau hyd yn hyn?

Llwyddais i gael contract i wneud yr holl waith ysgubo simneiau a chynnal a chadw stofiau ar gyfer yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol! Roedd hynny'n un eithaf mawr. O ran yr hyn y byddwn i'n ei wneud yn wahanol, nid o reidrwydd yn 'isafbwynt’, ond byddwn yn ceisio gwthio fy hun ymhellach i ochr fasnachol pethau yn gynt pe bawn i'n gallu mynd yn ôl.

Llongyfarchiadau, mae hwnnw’n dipyn o gontract! Beth yw'r cynlluniau ar gyfer y dyfodol?

Rwy'n bwriadu ehangu'r ardal lle rwy’n cynnig fy ngwasanaeth, gan barhau i gynnal gwasanaeth o safon uchel i'm holl gleientiaid. Mae hefyd yn bwysig i mi fod gen i enw Cymraeg ar gyfer fy musnes, ac yn gallu parhau i siarad yn Gymraeg gyda fy nghleientiaid; mae hyn wedi creu ychydig o gwsmeriaid da hyd yn hyn.

Oes gennych chi unrhyw gyngor yr hoffech ei rannu gydag entrepreneuriaid eraill?

Gwnewch gynllun a chadwch ato! Mae'n swnio'n syml ond mae cynllun mor bwysig, a byddwn yn argymell cynllunio ar gyfer y senarios gwaethaf cyn iddyn nhw godi.

Cyngor gwych. Yn olaf, sut mae'r Hwb Menter wedi eich cefnogi chi?

Ar wahân i'r uchod i gyd, rwyf hefyd wedi bod yn defnyddio'r mannau cydweithio, gan gynnwys caffi Tanio yn M-SParc. Roedd yr help i greu cynllun ariannol yn wych a byddwn i wir yn argymell unrhyw un i ddefnyddio'r Hwb. Mae cael cynghorydd sydd bob amser yno i ateb fy nghwestiynau hefyd wedi bod yn wych.

Mae’r Hwb Menter yn brosiect a ariennir yn rhannol gan Y Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Tanysgrifwch i’n cylchlythyr

Cofrestrwch i'n cylchlythyr lle cewch fanylion perthnasol i helpu'ch busnes chi a PDF Awgrymiadau Arfer Da Busnes!