Aelod Hwb: Awen Ashworth - Sbarduno

Sbarduno2

2 Rhagfyr
2020

Gan ddefnyddio ei phrofiad fel athrawes Cemeg, ac yn dilyn ei gwaith mewn diwydiant, cyfunodd Awen Ashworth y ddau gryfder i greu Sbarduno – gweithdy a chynnig hyfforddiant sy’n darparu arbrofion gwyddoniaeth i bobl o bob oed. O weithdai mewn ysgolion, i bartïon gwyddoniaeth, nod Awen yw gwneud gwyddoniaeth yn hwyl ac yn hygyrch i bawb, fel y gall plant deimlo'n ysbrydoledig am y posibiliadau ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol.

Mae Sbarduno yn fusnes a grëwyd gan Awen Ashworth, i rannu ei sgiliau addysgu a diwydiant er mwyn ysbrydoli pobl o bob oed! Mae Sbarduno yn darparu amrywiaeth o wasanaethau, o weithdai i hyfforddiant. Mae'r gweithdai'n weithgareddau gwyddoniaeth ymarferol y gellir eu teilwra ar gyfer pob oedran, o ysgolion i bartïon. Drwy academi, mae Sbarduno yn cynnig cymorth i ddisgyblion mewn ysgolion cynradd ac uwchradd mewn amrywiaeth o bynciau. Mae'r hyfforddiant yn darparu cyrsiau sy'n seiliedig ar wyddoniaeth, sy'n cyflwyno arbrofion i'w defnyddio mewn meithrinfeydd neu ysgolion.

Dechreuodd y busnes yn 2019, a chyn hynny roedd Awen yn gweithio mewn diwydiant lleol, a chyn hynny roedd wedi bod yn athrawes Cemeg ysgol uwchradd am 10 mlynedd. Dros y blynyddoedd, daeth yn amlwg nad oedd digon o adnoddau ar gyfer arbrofion yn yr ysgol, a chredodd Awen fod plant yn cael eu hysbrydoli gan wyddoniaeth yn gynnar os ydynt yn gallu datblygu eu sgiliau mewn ffordd ddiddorol a hwyliog. Felly, ganwyd Sbarduno!

Roedd blwyddyn gyntaf Sbarduno yn llwyddiant, ac roedd disgwyl i’r busnes ehangu, pan drawodd COVID19. Mae hyn wedi gohirio'r cynlluniau hynny, ond mae wedi caniatáu i Awen addasu a datblygu’r busnes i gyfeiriad newydd, gan gynnwys fideos wedi'u recordio ar-lein, sesiynau ffrwd fyw a phecynnau cartref.

Dywedodd Awen "Meddyliwch bob amser am fwy nag un syniad neu gyfeiriad i symud eich busnes ynddo, fel eich bod yn barod ac yn gallu addasu. Fy eiliad fwyaf balch yw'r boddhad swydd rwy'n ei gael pan fydda i wedi llwyddo i gael disgyblion a oedd gynt yn casáu gwyddoniaeth i'w fwynhau!" Mae'r gwasanaeth ar gael yn Gymraeg, Saesneg, neu gymysgedd o'r ddau, ac mae hyn wedi helpu’n fawr i ddarparu'r gwasanaeth i ysgolion yng Nghymru.

Dywedodd Sara, cydlynydd yr Hwb Menter, "Awen oedd un o Aelodau cyntaf yr Hwb, a manteisiodd i’r eithaf ar yr holl gyfleoedd. Defnyddiodd y mannau cydweithio yn Tanio / Ffwrnes er mwyn rhwydweithio â'r gymuned wyddoniaeth a thechnoleg yn yr Hwb @M-SParc, derbyniodd gyngor busnes, mynychu gweithdai a digwyddiadau, cysylltu ag aelodau eraill, ac mae mantais hyn yn glir. Y mwyaf y byddwch yn ei roi i ddod yn aelod llawn o’r Hwb, y mwyaf y byddwch yn ei gael allan ohono! Mae Awen bellach hyd yn oed wedi dechrau cyflwyno ei phrofiadau yn rhai o ddigwyddiadau'r Hwb, ac mae'n enghraifft wych o'r daith y gallwch fynd arni drwy'r Hwb Menter a theulu estynedig Busnes Cymru."

Mae’r Hwb Menter yn brosiect a ariennir yn rhannol gan Y Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

www.facebook.com/sbarduno

Tanysgrifwch i’n cylchlythyr

Cofrestrwch i'n cylchlythyr lle cewch fanylion perthnasol i helpu'ch busnes chi a PDF Awgrymiadau Arfer Da Busnes!